Troeon hebrwng gyda Treftadaeth Menai

WalkDewch am dro gyda Treftadaeth Menai i ddarganfod y pontydd a hanes glannau’r Fenai. Byddwn yn arwain teithiau ar hyd glannau hanesyddol Porthaethwy, at y ddwy bont, ac i weld llewod cudd Pont Britannia. Gellir cael ticedi ar http://menai_heritage.eventbrite.com.

Cynhelir y troeon cyntaf  ar ddydd Sadwrn – Mawrth trwy gydol mis Mai a Mehefin, gyda dewis o un ai bore neu prynhawn. Fe gyhoeddir dyddiadau eraill yn nes ymlaen.

O dan y rheolau Covid presennol 19 gallwn gael troeon gyda aelodau o fwy nag un aelwyd. Fe gyfyngir y nifer i 12 person. Bydd yr arweinydd yn cadw 2 fedr oddi wrthych ar hyd yr amser; parchwch y rheol hon os gwelwch yn dda.

Bydd y gost yn lleiafrif o £12 i fyny i bedwar o bobol, neu £30 i grwpiau mwy i fyny i 12. Elusen yw Treftadaeth y Fenai a bydd pob elw yn mynd tuag at y gwaith o gadw’n treftadaeth a traddodi stori ardal Porthaethwy.

Am fwy o wybodaeth ac i weld yr amseroedd sydd ar gael ymwelwch â http://menai heritage.evenbrite.com. Wrth archebu ticedi, os y mynnwch, gallwch hefyd brynu copiau o’n llyfrau ar Bontydd y Fenai a Glanfeydd Porthaethwy. Fe ddown â hwy i chwi ar y diwrnod.

Sylwch os gwelwch yn dda y gall arweinydd rheolaidd Tro Llewod Pont Britannia drafod y daith yn Saesneg a Chymraeg tra fod yr arweinyddion eraill yn uniaith Saesneg. Os y dymunwch gael y daith hirach o’r Ddwy Bont gyda arweinydd Cymraeg, gallwn drefnu hynny ond i chwi gysylltu.

Share this - Rhanwch hyn: