Cymryd rhan

Prosiect Annibynnol yw Treftadaeth Menai sy’n cael ei weithredu gan elusen gofrestredig sef, yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy (Rhif 1082013). Fe sylfaenwyd yr elusen yn ol yn 1997 er mwyn sefydlu cymdeithas cadwraethol i warchod a datblygu hanes y ddwy bont arloesol yma ac i roi ar gof a chadw hanes y bobl a’r ardal oedd yn ymwneud a’r broses adeiladu yn ogystal a bywyd gwyllt tanforol a harddwch glannau’r Fenai.

Yn gymdeithas gwbl annibynnol, yr ydym yn dibynnu’n fawr ar haelioni ein cefnogwyr, ein noddwyr a’n gwirfoddolwyr.

Hoffwch chi gyfrannu neu ddangos eich cefnogaeth tuag at y prosiect haeddiannol yma a’n galluogi i ddatblygu’r weledigaeth. Cliciwch ar y dolennau isod am fwy o wybodaeth.

Share this - Rhanwch hyn: