Mae Treftadaeth Menai yn amgueddfa annibynnol sy’n cael ei weithredu gan dîm o wirffoddolwyr. Heb y gwirfoddolwyr yma ni fuasai’r casgliad, na’r arddangosfa, dim teithiau na darlithoedd na digwyddiadau yn bodoli na chymryd lle.
Mae grwp bychan o ymddiriedolwyr gwirfoddol yn gyfrifol am weinyddu’r gymdeithas ynghyd a datblygu’r amgueddfa ac adeiladau eraill a threfnu’r gweithgareddau.
Mae gwirfoddolwyr eraill yn rhoi o’i hamser i
- gofrestru a rheoli’r Casgliad, gofalu am y lluniau a’r ffotograffiaeth a ‘r celfi.
- Ysgrifennu erthyglau ar gyfer papurau newyddion lleol i hyrwyddo gwaith y gymdeithas ac adrodd hanesion yn gysylltiedig a’r prosiect
- Wneud gwaith ymchwil i mewn i’r bobl a’r celfi sy’n gysylltiedig a’r Casgliad.
- Arddangos eitemau o fewn y Casgliad.
hefyd i gynnig cymorth gyda
- phresenoldeb yn nerbynfa’r Arddangosfa
- chyflenwi tȇ a choffi i ymwelwyr i’r Ganolfan
- bod yn Dywyswyr, siarad gyda pobl, gofyn a chofnodi ffeithiau
- cyhoeddusrwydd
- cyflwyniadau dwy-ieithog
- ymweliadau grwpiau
- teithiau cerdded
Hoffech chi fod yn rhan o’r tîm yma ? Drwy drefniant yn unig bydd eich amser tuag at y prosiect ac mae’n gyfle arbennig i ddatblygu sgiliau newydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo ni.