Addysg

Un o’n amcenion fel Ymddiriedolaeth yw hybu diddordeb yn hanes yr ardal i blant ysgol trwy ein rhaglen addysgol, yn benodol, hanes y ddau strwythyr arbennig sydd gennym yn yr aradl sef Pont y Borth a Phont Britannia. Ysgolion Gwynedd a Môn yw’r prif ddalgylch ond pan mae’r cyfle’n codi fe fyddwn yn targedu ysgolion o ardaloedd eraill.

Byddwn yn paratoi gweithdai o hanner diwrnod lle byddwn yn rhoi cyflwyniad byr sy’n rhoi’r cefndir i hanes y pontydd cyn cael mynd am dro dros Bont y Borth pan gaiff y plant werthfawrogi maint y strwythyr a chael rhyw syniad o’r dasg o adeiladu’r bont yn y lle cyntaf. Byddant hefyd yn cael y profiad o adeiladu modelau syml o’r pontydd yn yr amgueddfa gan fod y profiad ymarferol yn creu hwyl ac yn ennyn mwy o ddiddordeb.

Ymhellach byddwn yn cynnig sesiwn o ddiwrnod cyfan pan yn ychwanegol i’r uchod, yn y prynhawn byddant yn cael y sialens o adeiladu pont eu hunain mewn grŵpiau gan ddefnyddio Knex (tebyg i Lego). Y sialens yw adeiladu pont i groesi lled o I medr a chael gweld faint o bwysau gall y bont ei gario. Mae’r elfen o gystadleuaeth a chael gwneud rhywbeth drostynt eu hunain yn ychwanegu at yr hwyl ac yn rhoi boddhad.

Gallwn hefyd addasu’r cyflwyniadau i siwtio gofynion penodol ysgol, er engrhaifft efallai bod gan yr ysgol brosiect yn mynd ymlaen sy’n cynnwys trafnidiaeth a gallwn gynnwys trafodaeth ar gerbydau a hanes y diwydiant llongau ar y Fenai.

Yr ydym yn ffodus gan fod ein gwirfoddolwyr yn cynnwys nifer o athrawon sydd wedi ymddeol yn ogystal â pheirianwyr proffesiynnol gan ein bod yn ymwybodol fod cyflwyno’r gwaith ar y lefel iawn ar gyfer plant yn hanfodol. Y bwriad yw ymestyn y gwasanaeth â gynigiwn ac i’r perwyl hwn ‘rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori gyda ysgolion lleol i gael eu barn ar beth fuasent hwy yn hoffi ei gael allan o’r amgueddfa gyda’r gobaith y gallwn gynnig gwasanaeth hyd yn oed yn well.

Share this - Rhanwch hyn: