Cwestiynau Pont Britannia

Eich Cwestiynau am Bont Britannia

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Bont Britannia, anfonwch e-bôst atom. Byddwn yn ceisio ymateb mor fuan ag sy’n bosib, a byddwn yn cyhoeddi’r atebion ar y dudalen yma.

Cwestiynau Diweddaraf

Sut cafodd Pont Britannia ei henw?

Mae’r enw’n dod o Britannia Rock, sef darn o graig yng nghanol y Fenai lle mae tŵr canol y bont wedi ei adeiladu, ond ble cafodd y graig ei henw?
Hen enw Cymraeg y graig oedd Craig Frydan sydd yn golygu’n fras, craig mewn dŵr gwyllt neu ddŵr hegar. Credir y cymerodd rhywun mai ffurf ar Prydain, sydd yn golygu Britain, oedd Frydan ac felly galwyd y graig yn Britannia Rock. Mewn amser daeth enw Cymraeg y graig yn Craig Britannia.

Pam y mae’n bwysig heddiw? Dienw

Mae llawer o bobl yn credu nad yw’r bont yn bwysig heddiw ac mae gan bawb hawl i’w farn. Er hynny, mae’r bont yn darparu cyswllt cludiant pwysig rhwng Ynys Môn a gweddill Ynys Prydain ac Ewrob.. Mae’n cysylltu’r tir mawr ag Iwerddon gan fod yr A55 yn rhedeg ar draws y bont yr holl ffordd i Gaergybi a gorsaf y fferi. Heb y bont dros y Fenai mi fuasai’n amhosib i’r holl geir deithio i’r Ynys Werdd.

Wrth ystyried ei berthnasedd hanesyddol, mae darlun y bont wedi dylanwadu llawer ar beirianneg ar draws y byd. Mae nifer o’r cysyniadau a ddefnyddiwyd yn gyntaf ar Bont Britannia yn ei ffurf ‘tiwb’ yn dal i’w gweld mewn adeiladau, a strwythurau ar draws y byd i gyd.

Share this - Rhanwch hyn: