Contractwr y Gwaith Cerrig
Dyn o Swydd Efrog a saer maen yn ôl ei alwedigaeth. Ganwyd yn Dewsbury, teithiodd y wlad yn gweithio ar wahanol ddatblygiadau rheilffyrdd yr oes. Roedd yn fraint, meddai i gael gweithio gyda Robert Stephenson ar gynllun mor newydd a chwyldroadol.
Bu’n byw yn Craig Owen ar Ffordd Cadnant yn y Borth gyda’i ail wraig Sarah a’i deulu. Priododd y ddwy ferch o’r tŷ hwn. Yn drist iawn bu farw ei ddau fab yn ifanc ac felly darfu’r enw Hemingway gydag ef.
- John Hemingway a’i lun – ceir amlinelliad o hanes John Hemingway 1795-1872 contractor, gyda manylion am ei deulu a’r prosiectau niferus y bu’n gweithio arnynt, gan gynnwys Stryd Bute a Phorth Penrhyn yn ogystal â llawer o bontydd rheilffordd a traphontydd.
- Ei ddarlun – mae darlun olew o John Hemingway wedi goroesi yn nheulu un o’i ferched. Ar ôl cael ei adfer mae i’w weld yn yr arddangosfa yn Nhreftadaeth Menai.
- Cafwyd nawdd i adfer y llun trwy gyfraniadau preifat a grant gan PRISM (Preservation Of Industrial and Scientific Material) wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
- B S Marks, arlunydd adnabyddus o Gaerdydd a Llundain beintiodd y llun.
Share this - Rhanwch hyn: