Llinell Amser y Bont Menai

Ar y dudalen yma, mae llinell amser Pont y Borth i’w gael. Sgroliwch trwy’r llinell i ddysgu am hanes y bont.

1282
Edward I yn adeiladu’r bont gyntaf dros y Fenai (gan ddefnyddio cychod).
1594
Y Frenhines Elisabeth yn prydlesu fferi i John Williams, byddai ei deulu’n cynnal fferi dros y Fenai hyd at agor y bont gyntaf.
1776
Mr Goldbourne yn awgrymu’r bont gyntaf dros y Fenai.
1800
Mr Nichols yn awgrymu adeiladu pont bren gyda phont godi yn y canol yn agos i Ynys Cadnant.
1801
Gorchmynwyd John Rennie i wneud arolwg o safleoedd ar gyfer porthladd addas i groesi i Iwerddon. Hefyd fe awgrymodd Rennie darluniau cyntaf ar gyfer adeiladu pont dros y Fenai – y rhyfel yn erbyn Napoleon roddodd yr ergyd farwol i hyn.
1810
Thomas Telford yn cael ei benodi i wneud arolwg o ffordd o Lundain i Gaergybi. Fe gynigiodd gynlluniau ar gyfer 2 bont dros y Fenai – un bont ar bierau a phont bwa sengl. Oherwydd gwrthwynebiad, awgrymwyd pont grog ar draws yr afon ger Ynys y Moch.
1815
Telford yn cael ei benodi i adeiladu pont dros y Fenai.
1815
Telford yn cyflwyno darlun yn swyddogol ar gyfer pont grog.
14 Awst 1818
Cyfarfod yng Nghaernarfon i foneddigion a dynion busnes lleol i fynegi gwrthwynebiad i’r bont gan fod y bont dros 7 milltir i ffwrdd o’u tref ac y buasai hyn yn debyg o effeithio ar eu busnesau.
1819
Deddf Seneddol yn awdurdodi Telford i ddechrau gwaith ar y bont grog. Gosodwyd y garreg gyntaf ar y 10fed o Awst.
1824
Gorffennwyd prif waith carreg y Bont.
20 Ebr 1825
Cododd y gadwyn gyntaf i’w lle ar y bont.
30 Ion 1826
Agorwyd y bont am y tro gyntaf i gerbydau.
1938
Cafodd Dorman Long ei gomisiynu i foderneiddio a chryfhau’r bont. Cafodd y bwau eu lledu ar gyfer cerbydau mwy, cafodd llwybrau troed a dec newydd i’r cerbydau eu creu a newidwyd y cadwyni.
31 Rhag 1940
Gorffennwyd y gwaith ar y bont, a dilewyd y doll i wneud y bont yn un di-ddal.
1999
Gorffennwyd gwaith atgyweirio er mwyn cryfhau’r dec lle bydd ceir yn croesi.
2005
Cafodd y bont ei hail-beintio’n llwyr am y tro gyntaf ers 1940.

Share this - Rhanwch hyn: