1859 – 1974
Dechreuodd hanes HMS Conway yn yr 1850au – oherwydd rheolau newydd mewn morio masnachol ‘roedd angen mwy o forwyr gydag addysg dda a phroffesiynnol. Arweiniodd hyn tuag at sefydlu llongau hyfforddi a’r gyntaf o’r rhain oedd HMS Conway a angorwyd wrth Rock Ferry ar yr afon Merswy yn 1859. Tros y blynyddoedd defnyddiwyd tair llong fel y Conway ond yr olaf a’r un a fu’n gwasanaethu hiraf oedd yr HMS Nile a adeiladwyd yn 1839.
Yn ystod 1941 dioddefodd Lerpwl a’r dociau ymosodiadau difrifol o’r awyr a penderfynwyd ail-leoli’r HMS Conway i safle llawer mwy heddychlon ar yr Afon Menai. Ar Mai 21ain 1941 dechreuodd HMS Conway ar ei thaith gyntaf ers 65 mlynedd a 24 awr yn ddiweddarach cyrhaeddodd angorfa Glyn Garth i’r gorllewin o Bier Bangor. Mae hanes am y cadetiaid ambell waith yn cael eu camgymeryd gan bobol leol am yr hogiau, rhai gyda phroblemau ymddwyn, fyddai’n arfer bod dan hyfforddiant ar y llong hyfforddi, Clio, ei rhagfleynydd ar yr angorfa.
Daeth taith nesaf y llong wyth mlynedd yn ddiweddarach. Roedd mwy o alw am gadetiau i fod yn swyddogion a theimlai Capten y Conway, Capten Goddard, fod angen dod o hyd i safle ar y lan i letya mwy ohonynt. Dewiswyd safle Plas Newydd oherwydd bod lle yno ar gyfer caeau chwarae ac i godi adeiladau. Ar Ebrill 14eg 1949 symudwyd y Conway, gyda chymorth dau dynfad, i lawr yr Afon Menai a thrwy Bwll Ceris at Blas Newydd. ‘Roedd mast y llong wrth fynd oddi tan Pont y Borth o fewn 3 troedfedd i’r bont, a daeth yn agos iawn at grafu gwely’r afon ar adegau.

Pedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1953, roedd angen adnewyddu’r llong ym Mhenbedw. Awgrymodd peilotiaid lleol (Richard Jones a’i fab) wrth y prif swyddog, Captain Eric Hewitt, RNR, y dylid cael tri tynfad, Cytunodd y swyddog ond gwrthodwyd y cynnig gan Bwyllgor Rheoli’r Conway oedd yn mynnu mynd am ddau fel yn 1949. Wrth i’r llong nesau at y Bont y Borth aeth yn anodd i’w rheoli felly symudwyd y tynfad ôl i’r blaen mewn ymdrech i wella’r sefyllfa. Gadawodd hyn starn y llong heb reolaeth a munudau yn ddiweddarach aeth yr HMS Conway ar y creigiau gwastad (y “Platters”) wrth y bont a phan aeth yn drai fe dorrodd ei chefn ac fe’i gadawyd wedi ei dryllio ar lan y Fenai.
Mae’r rheswm am y llongddrylliad wedi bod yn bwnc trafod am yn hir iawn, Yn ôl David H. Thomas, cyn gadet ar y llong, ‘roedd yr amgylchiadau anodd ar y Fenai wedi eu dwysau gan ymchwydd anarferol a achoswyd gan dywydd garw ym Môr Iwerddon ond mae hefyd yn dweud mai’r ffaith fod y llong yn hwyr yn cychwyn o Blas Newydd oedd y prif achos.
Gadawyd y llongddrylliad tan 1956 pan ddechreuodd Bwrdd Harbwr Caernarfon ei symud. Fodd bynnag, yn ystod y gwaith aeth y llong ar dân a fe’i llosgwyd hyd at lefel y dŵr. Mae’n dal yn bosibl gweld gweddillion y llong ar drai isel.
Arhosodd yr ysgol ym Mhlas Newydd am ugain mlynedd arall. Yn ystod yr amser hwn benthyciwyd pebyll y fyddin tra’r adeiladwyd mwy o gabanau. Cafodd yr ysgol ei chau yn 1974 pan ddaeth rhoddion ariannol i ben. Yn ystod cyfnod olaf HMS Conway ym Mhlas Newydd, astudiodd Ian Duncan Smith a Syr Clive Woodard yno.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar wefan HMS Conwy. Mae’r dudalen hanes ar y wefan yma yn cynnwys adroddiad diddorol ar yr ymchwiliad i’r llongddrylliad.