Porthaethwy

townMae’r dref Porthaethwy yn eistedd ar fanciau’r Afon Menai yn ne-ddwyrain Ynys Môn (gweler y map). Mae’r enw ‘Porthaethwy’ yn amlwg yn dod o’r geiriau ‘porth’ a ‘dindaethwy’ sef enw tylwyth lleol. Gan rhoi’r ddwy air at eu gilydd mae felly yn golygu Porth tylwyth Dindaethwy. Heddiw mae gan Borthaethwy poblogaeth o thua 3,850.

Er bod rhan fwyaf o’r hen fusnesau wedi cau neu wedi’u symud i safleoedd newydd, mae yna dal nifer o fusnesau arbennig yn darparu gwasanaethau yn y dref. Wrth gerdded i lawr y stryd fawr gallwch weld amrywiaeth y gwasanaethau ar gael: cigydd, siop nwyddau cyffredinol, canolfan darlunio ceginau, siopau hen bethau, banciau, gwerthwyr tai, bwytai a mwy.

Mae’r dref yn adref i un o’r pum ysgol uwchradd ar Ynys Môn, Ysgol David Hughes. Mae’r ysgol wedi’i leoli yn y dref ers 1963 pan symudodd o’i safle wreiddiol ym Mhiwmares. Mae hyd at 1,400 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd yn ei wneud yn ysgol fwyaf Ynys Môn ac yn un o fwyaf Gogledd Cymru. Mae hi hefyd yn un o ysgolion mwyaf llwyddiannus yn yr ardal. Mae yna ysgol gynradd ardderchog ym Mhorthaethwy, Ysgol y Borth.

Yn wreiddiol roedd y maes parcio mawr y tu ôl i’r stryd fawr yn cynnal y ffair flynyddol, Ffair Borth. Mae’r ffair yn dyddio nôl i’r 1860au pan roedd yn bennaf yn farchnad gwartheg. Mae’r ffair o hyd yn cael ei chynnal ar 24ain o Hydref. Dyddiau yma cynnalwyd y ffair bob mis Hydref ac yn ystod yr wythnos mae pobl yn dod o ardal eang i fwynhau’r reidiau a stondinau.

Mae Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor wedi’i leoli yn y dref. Maent yn meddiannu adeiladau yn agos i’r Menai. Mae ganddynt offer recordio wedi’i leoli yn y Fenai i fesur sefyllfa’r llanw. Mae llong ymchwil yr Ysgol, y Prince Madog, yn aml wedi’i ddocio ar Bier Sant George lle’r oedd llongau stêm yn dod ac ymwelwyr o Lerpwl flynyddoedd yn ôl. Mae’r llong stêm enwog, y Balmoral, yn dod am wythnos bob blwyddyn i fynd a bobl o gwmpas yr ynys.

Mae’r dref yn serennu mewn un o ddramâu mwyaf poblogaidd S4C. Mae set y ddrama Rownd a Rownd wedi’i leoli ar Gil Bedlam yn agos i’r stryd fawr a’r llyfrgell. Nid yw’n anaml i weld y dref ar y rhaglen neu i weld sêr y sioe o gwmpas y dref.

Mae gan y dref Cyngor Dref, Siambr Masnach, Aelodaeth Sifig a sawl grŵp a gweithgaredd cymunedol eraill.

Share this - Rhanwch hyn: