Grant Gaeaf Llawn Lles

Fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru mae Treftadaeth Menai wedi cael grant ar gyfer cynnwys pobol ifanc i gymeryd rhan mewn gwella mynediad i’n harddangosfa i’r rhai gyda nam ar eu clyw. Mae’n Amgueddfa Pontydd ym Mhorthaethwy yn croesawy cannoedd o ymwelwyr ifanc pob blwyddyn ac un agwedd o’r arddangosfa yw dwy fidio sy’n adrodd hanes Pont y Borth a Phont Britannia. Yn anffodus nid oes modd i’r rhai gyda nam ar eu clyw i werthfawrogi’r fidios gan nad oes isdeitlau arnynt.

Bydd y grant oddiwrth y rhaglen Gaeaf Llawn Lles (sy’n cefnogi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pobol ifanc 0-25 mlwydd oed) yn ein galluogi i logi person ifanc i ddarparu naratif “British Sign Language” (BSL) ar y ddwy fidio, yn ogystal ag isdeitlau yn Saesneg a Chymraeg. Bydd hyn ddim yn unig yn galluogi yr hen a’r ifanc i werthfawrogi’r ddarpariaeth, ond yn ogystal yn gosod cynsail i hybu defnydd o BSL gan yr ifanc.

Bydd y fidios ar gael i’w gwylio yn Amgueddfa’r Pontydd pan y byddwn yn ail agor yn y Gwanwyn. Gweler yr amser agor ar https://menaibridges.co.uk/visit/opening-times/.

Logo WoW Welsh Government Federation logo

Share this - Rhanwch hyn: