Llong hyfforddi arall a angorwyd ar y Fenai oedd HMS Clio, llong ryfel 22 gwn a oedd yn chwaer llong i’r HMS Challenger enwog. Cafodd HMS Clio ei benthyg i Gymdeithas Gogledd Cymru rhwng 1877 a 1920 er mwyn hyfforddi llanciau lleol ar gyfer bywyd ar y môr. Cafodd hogiau eu hanfon i’r Clio er mwyn eu cyflwyno i ddisgyblaeth.
Roedd llawer o’r bobl leol yn ystyried y Clio yn llong garcharu neu fan diwygio ar gyfer pechaduriaid ifanc. Er nad oedd hyn yn gwbl wir roedd nifer o’r bobl ifanc a anfonwyd i’r llong yn blant ‘anodd’. Y syniad oedd fod angen i’r plant gael profiad o reolaeth bendant a disgyblaeth ar gyfer eu harbed rhag bywyd o droseddu. Cafodd llawer eu gorfodi yn erbyn eu hewyllys ac nid oedd yn bosib gadael y llong.
Ar y llong nid oedd bywyd yn braf. Roedd y rhai oedd yn torri’r rheolau yn cael curfa yn rheolaidd, ond yn aml roedd y curo yn darparu adloniant i’r criw. Ar ôl dioddef y bwlio creulon roedd rhaid i’r myfyrwyr oedd wedi’u curo gysgu ar eu boliau am ddyddiau wedyn. Nid oedd yn helpu fod y myfyrwyr hynaf yn bwlio’r myfyrwyr iau trwy rwbio dŵr hallt i mewn i friwiau a adawyd gan y gurfa.
Roedd bywyd ar yr HMS Clio yn ddiarhebol ar y pryd ac fe adawodd ei gymynrodd gyda’r bobl leol. Am flynyddoedd ar ôl i’r Clio ei gymuno bygythiodd mamau anfon eu plant i’r llong er mwyn eu cosbi.