Y Gweithlu

Pont y Rheilffordd - Tiwb Robert Stephenson
Pont y Rheilffordd – Tiwb Robert Stephenson

Agorwyd Pont Britannia, un o gampweithiau peirianyddol mawr y byd, yn 1850. Cafodd llawer ei ysgrifennu am yr adeiladwaith ond ychydig a wyddom am y bobl a weithiodd yn ddyfal i godi’r bont. Pwy oedd y dynion hyn? O ble roedden nhw’n dod? Fu rhai o’ch hynafiaid yn gweithio ar y bont fel seiri meini, gwneuthurwyr brics, llongwyr, contractwyr, gweithwyr ffowndri, rhybedwyr neu seiri coed.

Dyma’r gweithlu:

Y Peirianwyr – Gweledigaeth Robert Stephenson oedd y bont, William Fairbairn a’i gwnaeth yn bosibl ac Edwin Clark oedd y peiriannydd ar y safle.

Y Sieri Meini – Roedd y cwmni oedd yn gyfrifol am y gwaith cerrig – Nowell Hemingway a Pearson yn dod o Dewsbury yn Swydd Efrog. Daeth seiri meini a gwneuthurwyr brics â’u teuluoedd i fyw ar y safle.

Y Gweithwyr – Roedd rhai gweithwyr o Iwerddon yn cael eu cyflogi ond roedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn dod o’r ardal. Cafodd gweision ffermydd a mwyngloddwyr copr di-waith gyfle i gael cyflogaeth ac i ddatblygu eu sgiliau.

Y Gweithwyr Haearn – Roedd sgiliau a ddysgwyd wrth adeiladu llongau yn hanfodol wrth greu’r tiwbiau haearn a daeth dynion o iardiau llongau Llundain i weithio ar y bont.

Y Seiri Coed – Roedd angen sgaffaldiau pren er mwyn adeiladu’r tyrau enfawr 200 troedfedd o uchder. Defnyddiwyd aceri o fyrddau pren er mwyn llunio’r tiwbiau haearn. J&A Greaves oedd y contractwyr a weithiai efo Nowell, Hemingway a Pearson.

Y Llongwyr – Cariwyd yr holl ddefnyddiau adeiladu yno ar y môr. O Benmon y daeth y cerrig. Dynion lleol oedd yn adnabod y moroedd o amgylch Môn oedd y llongwyr. Ar adegau roedd y tywydd yn ddrwg a chollwyd llongau a’u llwythi. Cyflogwyd llawer mwy o longwyr, gan gynnwys dynion o Lerpwl, i gyflawni’r dasg enfawr o godi’r tiwbiau o’r afon i’w lle ar y tyrau.

Gweithwyr Rheilffordd – Gyrrodd Robert Stephenson a chriw arbennig y trên cyntaf ar draws Y Fenai er mwyn profi’r bont. Wedyn gweithwyr rheilffordd C&H oedd yn mynd â’r trenau pwerus drwy’r tiwbiau.

Y Cyhoedd – Daeth miloedd o bobl i weld y seremoni agor a chariwyd dros 700 o bobl dros y bont y tro cyntaf. Yfwyd llwncdestun i’r merched am eu dewrder!

Rydym wedi bod yn ymchwilio i hanes gweithlu’r Pont Britannia am nifer o flynyddoedd. Buom yn chwilio am yr enwau mewn papurau newydd, ffurflenni cyfrifiad a chofrestri eglwysi. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â nifer o ddisgynyddion y dynion o bob rhan o’r byd. Mae gwybodaeth am y seiri coed a’r sieri meini ar gael yn Nhreftadaeth Menai. Ceir manylion y deunyddiau a’r gwaith yn ogystal ag enwau rhai o’r 800 o ddynion a gyflogwyd.

Dylid anfon unrhyw wybodaeth neu gwestiwn am y prosiect at:

Julie Stone: juliestone.butterworth00@gmail.com
neu drwy Dreftadaeth Menai: info@menaiheritage.org.uk

Share this - Rhanwch hyn: