Richard Roberts

Richard Roberts     Richard Roberts
Richard Roberts

Richard Roberts (1789-1864)

Ganed Richard Roberts ger Llanymynech, Powys ym mis Ebrill 1789 yn fab i grydd. Ar ôl addysg sylfaenol a chyfnodau yn gweithio mewn sawl man symudodd i Lundain. Yno, wrth weithio i Henry Maudsley, dysgodd am bwysigrwydd offer turnio manwl gywir. Yn 1816 sefydlodd gwmni gyda Thomas Sharpe ac erbyn 1830 roedd wedi rhoi patent ar ddau beiriant.

Gwnaeth Richard Roberts gyfraniad sylweddol i adeiladu Pont Britannia pan roddodd batent ar beiriant tyllu Jaquard ar 5ed Mawrth, 1847.

Er mwyn gwneud twll, cyn oes y peiriant hwn, roedd angen 4 dyn i farcio plât gyda phatrwm ac 8 dyn arall i fwydo’r peiriant drwy symud y plât o dan y tyllwr.

Roedd y peiriant tyllu Jaquard yn gweithio’n gynt ac yn fwy cywir na’r hen ddull a bu’n llwyddiant mawr ar y Tiwb dros Afon Conwy. Roedd yn gallu gwneud y tyllau angenrheidiol mewn plât 12 troedfedd o hyd wrth 2 droedfedd 8 modfedd o led mewn tua 4 munud. Roedd y plât ar waelod y tiwb yn fodfedd a hanner o drwch ac roedd angen 144 o dyllau a phob un ohonynt yn 1 ³⁄₈ modfedd o ddiamedr. Wrth ddefnyddio peiriant tyllu Richard Roberts, gellid gwneud y gwaith gan dri gweithiwr i godi’r platiau ar y peiriant ac un hogyn i roi olew ar y tyllwyr.

Pe bai’r platiau’n cael eu gosod ar ben ei gilydd dywedwyd y gellid gyrru bar haearn drwy’r tyllau o’r top i’r gwaelod heb drafferth ac y gellid dewis unrhyw ddau o blith mil o blatiau a’u rhybedu heb newid y tyllau mewn unrhyw fodd. Nid oedd angen marcio patrwm ar y platiau ac nid oeddynt yn cael eu gwanio fel gyda dulliau cynharach o dyllu.

Yn ddiweddarach ysgrifennodd Stephenson at Richard Roberts gan ei longyfarch ar yr hyn roedd wedi ei gyflawni:

Your Multifaroius Punching Mchine was used at the Conwy Tubular Bridge by Mr. Evans, the Contractor, quite successfully and its advantages over the machines in common use, both as regards accuracy, speed and economy were perfectly established.”

Yn 1857 cyflwynodd Richard Roberts bapur i Sefydliad y Peirianwyr Sifil, papur oedd yn disgrifio’r camau breision a wnaeth mewn peiriannau tyllu a rhybedu. Roedd ei beiriannau yn symlach ac yn gallu gwneud gwell gwaith.

Yn drist iawn ni wnaeth Roberts ei ffortiwn gan nad oedd yn ddyn busnes da.

Ar ddiwedd ei oes roedd yn byw mewn tlodi gyda’i ferch yn Llundain.   Dim ond ar ôl ei farw ym Mawrth 1864 y cafodd ei gyfraniad ei gydnabod a chafodd ei ferch bensiwn o £300.

Share this - Rhanwch hyn: