Ynys Gorad Goch

Ynys Gorad Goch
Ynys Gorad Goch

Trap Pysgod y Fenai

Mae Ynys Gorad Goch wedi’i lleoli yng nghanol y Fenai, rhwng Pont y Borth a Phont Britannia. Mae ‘corad’ yn air sy’n dod o’r gair Lladin ‘gurgites’ ac mae’n debyg i’r gair newid i ‘gorgit’ neu ‘coret’ yn iaith y Brythoniaid cyn newid ymhellach i’r ffurf gyfoes.

Mae nifer o olion coredau pysgod i’w darganfod ar hyd glan y Fenai ond fe welir yr enghreifftiau gorau ar Ynys Gorad Goch ei hun. Nid ydym yn gwybod beth yn union yw dyddiad yr adeiladwaith ond maent yn dyddio yn fras o tua 1824 pan gafodd siambr gochi pysgod ei hadeiladu ar yr ynys. Mae’r system yn gweithio gan fod y coredau wedi eu hadeiladu ger cerynt trolif; mae dŵr yn cael ei dynnu i mewn i’r coredau ac yn gadael y pysgod wedi eu dal ar y gwaelod wrth i’r llanw fynd allan i gyfeiriad Caernarfon
Ynys Gorad Goch
Teulu Davies yn pysgota oddi ar y Gorad.
boat
Cwch rhwyfo yn dyddio o 1927, a adeiladwyd gan weithdy Leavett ym Mhorthaethwy. Defnyddiwyd gan y teulu Davies i wasanaethu Ynys Gorad Goch.
Share this - Rhanwch hyn: