Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn ôl yn 1997 fel prosiect gymunedol i ddathlu’r ddwy bont byd enwog sy’n croesi’r Fenai, eu Peiriannwyr a’u hadeiladodd, y bobl a’r bywyd gwyllt tanforol a’r ardal o harddwch arbennig sy’n bodoli o amgylch plwyf Porthaethwy. Ein gweledigaeth yw i gynnig addysg a chanolfan gymunedol yng Nghanolfan Thomas Telford ynghyd â chartref parhaol ar lannau’r Fenai, ym Mhorthaethwy i’r Casgliad unigryw o wrthrychau hanesyddol, gwyddonol, peiriannyddol ac amgylcheddol.
Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am drefnu prosiectau hir-dymor a gweithredu’r Ganolfan a’r Arddangosfa o ddydd i ddydd. Gweler fwy am yr ymddiriedolwyr ar dudalen Yr Ymddiriedolwyr.
Gwirfoddolwyr yw staff yr Arddangosfa. Maent hefyd yn arwain teithiau cerdded a chyflwyno sgyrsiau / darlithoedd. Mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan ein staff rhan amser sy’n cynnig cymorth i’r holl ddefnyddwyr, ein gwirfoddolwyr a’r Ymddiriedolwyr.
Un o’n prosiectau newydd MAWR nesaf fydd creu atyniad twristiaeth pob-tywydd ar lan y Fenai ar Pier y Tywysog a fydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Yma fydd cartref ein Amgueddfa a fydd yn gyfleuster ardderchog i ymwelwyr a’r bobl leol ddod i ddysgu a darganfod.