Canolfan Thomas Telford

Telford Centre

Yn 2007 cafodd yr hen ysgol sy’n gartref i swyddfeydd ac arddangosfa Treftadaeth y Fenai ei hadnewyddu. Yn gynnar yn yr 1850au, am fod yr eglwys ar Ynys Tysilio wedi mynd yn rhy fach i boblogaeth Porthaethwy, cynlluniodd Henry Kennedy, pensaer adnabyddus o Fangor, eglwys newydd ac ysgol, iard a chartref i’r prifathro gan osod yr eglwys mewn man amlwg uwchben y ffordd at y bont newydd. Rhoddwyd tir ac arian gan Ardalydd Môn ac agorwyd yr ysgol yn 1854.

Plant ysgol 1905
Plant ysgol 1905

Ar y dechrau adeilad petryal, syml gyda portsh yn y ffrynt oedd yr ysgol. Yn 1878 adeiladwyd estyniad yn y cefn er mwyn y plant lleiaf. Ychwanegwyd ystafell cadw cotiau yn 1896 a gwneud y portsh yn fwy yn 1909.

Roedd yr ysgol yn perthyn i fudiad yr Ysgolion Cenedlaethol oedd yn darparu addysg gyda chefnogaeth yr Eglwys. Yr Anghydffurfwyr oedd yn gyfrifol am yr Ysgolion Brytanaidd. Roedd y pwyslais ar y dechrau ar addysg Feiblaidd ac Eglwysig ond yn yr 20fed ganrif ychwanegwyd dysgu mathemateg, llenyddiaeth a daearyddiaeth.

Roedd lle i 200 o blant yn yr ysgol ond prin y bu’n llawn, yn enwedig ar ôl i Ysgol Frytanaidd gael ei hadeiladu yng Nghilbedlam yn 1865. Pan godwyd ysgol newydd gan y Cyngor ar gornel ffyrdd Caergybi a Phentraeth yn 1913 collwyd mwy o blant. Yn ôl adroddiad arolygwyr yn 1921 roedd amheuaeth oedd yr adeilad yn addas ar gyfer ysgol fodern er bod yr addysgu ei hun yn cael ei ganmol. Yn 1923 pan oedd swydd prifathro Ysgol y Cyngor yn wag penderfynwyd uno’r ddwy ysgol gyda George Senogles, pennaeth Yr Ysgol Genedlaethol, yn brifathro. Paciodd y plant a’r athrawon eu llyfrau ac ar 29 Mawrth 1923 cerdded i lawr y lôn i’w hysgol newydd, gan weiddi hwrê dair gwaith i’w hen ysgol, a theirgwaith wedyn i’r ysgol newydd.

Ar ôl 1923 cafwyd nifer o syniadau am beth i’w wneud â’r adeilad, gan gynnwys llys barn, ond roedd cymal yn y dogfennau trosglwyddo tir gwreiddiol yn dweud bod rhaid ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau addysgiadol. Felly daliwyd i’w defnyddio fel Ysgol Sul a Neuadd ar gyfer Eglwys y Santes Fair.

Cafodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy (a elwir hefyd yn Treftadaeth Menai) ei sefydlu yn 1997 i ddiogelu treftadaeth hanesyddol a phensaernïol Y Borth ar gyfer y gymuned. Er mwyn hyrwyddo’r amcanion hyn prynwyd yr Hen Ysgol yn 2007 gyda chymorth hael Menter Môn, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones, Sefydliad y Peirianwyr Sifil (Cymru) a Chyfeillion yr Ymddiriedolaeth. Cafodd enw newydd i gofio am Thomas Telford a Phont y Borth.

Mae’r ganolfan wedi ei hadnewyddu’n llwyr. Cafodd do newydd a gwres canolog a phopeth sydd ei angen ar gyfer ei defnyddio gan y cyhoedd – cegin a thoiledau newydd, stordy a stafell ar gyfer cyfarfodydd, darlithoedd a digwyddiadau. Erbyn hyn mae’n ganolfan brysur ar gyfer cynnal gweithgareddau cymunedol a gweithdai ar gyfer grwpiau ac ysgolion. Mae Treftadaeth Menai yma hefyd, mae ar agor i’r cyhoedd yn ystod y gwyliau er mwyn dweud stori’r ddwy bont arloesol dros Y Fenai a’r bobl a’u cododd.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cartref parhaol I’r Arddangosfa yng Nglanfa’r Tywysog ar lan y Fenai yn y Borth, er budd pobl leol ac i ddenu ymwelwyr yn ôl i’r dref.

Share this - Rhanwch hyn: