1757 – 1834
Cymrawd o Gymdeithasau Brenhinol Llundain a Chaeredin
Llywydd Cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil
Peiriannydd y Lôn Bost o Lundain i Gaergybi 1811-1826
Ganwyd Thomas Telford yn Glendinning, Eskdale (ger Langholm, Dumfries a Galloway) ar Awst 9fed 1757. Roedd John Telford, ei dad, yn fugail ond bu farw y mis Tachwedd canlynol ac felly roedd y teulu’n dlawd iawn. Cafodd Thomas addysg yn yr ysgol leol a bu’n helpu gyda nifer o fân swyddi o gwmpas yr ardal pan yn blentyn. ‘Laughing Tam ‘ oedd ei lysenw. Cafodd garedigrwydd mawr gan rai o deuluoedd yr ardal a pharhaodd eu cyfeillgarwch trwy gydol ei oes.
Yn 14 oed aeth Thomas yn brentis saer maen, a gellir gweld enghreifftiau o’i waith yn Langholm a Westerkirk. Symudodd i Gaeredin yn 1780 i weithio yn y dre ‘newydd’ o gwmpas Stryd y Tywysogion. Yn 1782 aeth i Lundain a bu’n gweithio ar Somerset House i Syr William Chambers a chafodd ei ddyrchafu’n saer maen o’r radd flaenaf. Wedyn rhwng 1784 a 1786 bu’n oruchwyliwr yn Nociau Portsmouth lle datblygodd ei sgiliau dylunio a rheoli prosiectau.
Yn 1786 cafodd ei gyflogi gan William Pulteney i wella Castell Amwythig a phenodwyd ef yn Syrfewr Gweithiau Cyhoeddus Swydd Amwythig, swydd a gadwodd hyd ei farwolaeth. Bu’n gyfrifol am adeiladu 3 eglwys a mwy na 40 o bontydd yn y Sir. Pont Montford oedd yr un gyntaf. Dwy bont garreg arall a gododd oedd Bewdley a Bridgnorth, ac yr oedd ei bont haearn gyntaf, Buildwas (1796), yn ddatblygiad arloesol. Mae nifer o bontydd tebyg a adeiladwyd ganddo ledled Prydain yn dal i gael eu defnyddio hyd heddiw.
Cyflogwyd Telford gan Gwmni Camlas Ellesmere yn 1793 a gwnaeth enw iddo’i hun fel peiriannydd sifil pan oedd yn gyfrifol am adeiladu Camlas Llangollen (fel y’i gelwir heddiw) sydd yn cynnwys Dyfrbont Y Waun (1801) a Dyfrbont arloesol Pontcysyllte (1805).
Yn dilyn gwaith a wnaeth i Gymdeithas Pysgodfeydd Prydain, penodwyd ef gan y Llywodraeth yn 1801 i arolygu a gwella cysylltiadau yn Ucheldir yr Alban. Yn ystod yr 20 mlynedd nesaf bu’n gyfrifol am adeiladu bron i 1000 o filltiroedd (1600km) o ffyrdd newydd, mwy na 1000 o bontydd, ugeiniau o borthladdoedd, eglwysi a rheithordai, a Chamlas Caledonia , 60 milltir (96 km) o gyswllt rhwng arfordir y gorllewin a’r arfordir dwyreiniol.
Comisiynwyd Telford hefyd i ddylunio Camlas Llongau Gotha yn Sweden. Cwblhaodd ei arolwg yn 1808, a chynlluniodd y cyfan – 114 milltir (182 km) – cyn dychwelyd i Brydain ddau fis yn ddiweddarach. Cwblhawyd y gamlas yn 1832.
Yn 1811 penodwyd Telford i wneud arolwg o’r ffordd rhwng Amwythig a Chaergybi ac yna yn 1815 comisiynwyd ef i wella’r holl ffordd o Lundain i Gaergybi, gwaith yn cynnwys adeiladu Pont Waterloo ym Metws y Coed, y ffordd drwy Nant Ffrancon yn Eryri, Cob Stanley i Ynys Cybi, ac wrth gwrs Pont y Borth rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru. Estynnwyd y comisiwn yn 1817 i gynnwys y ffordd o Fangor i Gaer o gwmpas Penmaenmawr a Phenmaenbach a chroesi aber Afon Conwy gyda chob hir a Phont Grog Conwy. Agorwyd y ffordd newydd o Langollen i Fangor yn 1819 a chwblhawyd yr holl waith yn 1826.
Yn 1820 gwahoddwyd Thomas Telford i fod yn Llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil, y gymdeithas broffesiynol a’r corff cymhwyso hynaf yn y byd ar gyfer peirianwyr. Bu ganddo ran allweddol mewn ennill Siarter Frenhinol i’r Sefydliad yn 1828 a bu’n Llywydd hyd ei farwolaeth ar Fedi 2, 1834.