Yn rhedeg trwy’r flwyddyn.
Mae’r Ganolfan yn croesawu grwpiau o bob math gyda bob math o wahanol ddiddordebau. Dyma wybodaeth hanfodol ar gyfer arweinyddion grŵp.
Gwybodaeth Bwcio –
- I grwpiau sydd eisiau cyfuno ymweliad â’r Ganolfan gyda thaith dywys ar lan y môr neu daith dros y Bont gyda pheiriannydd, mae’n hanfodol bwcio o flaen llaw.
- Os ydych yn trefnu ymweliad sydd yn cynnwys taith rydym yn awgrymu eich bod yn caniatáu 2-4 awr ar gyfer eich ymweliad.
- Medrwn drefnu te a choffi a/ neu ginio bwffe.
- Ar gyfer teithiau tywys awgrymwch fod eich grŵp yn gwisgo esgidiau synhwyrol a chotiau i amddiffyn eu hunain yn erbyn y gwynt wrth gerdded ar draws y bont.
- Cerbydau – Mae mynediad am ddim ar gael ar gyfer gyrwyr sydd yn gyrru grwpiau o 10 person neu fwy.
- Mae yna le i adael eich teithwyr y tu allan i’r Ganolfan a lle parcio am dros 4 awr ar Ffordd Caergybi, chwarter milltir i ffwrdd o’r Ganolfan.
- Ymwelwyr anabl – ar gyfer yr anabl mae gennym fynediad penodol i mewn i’r Ganolfan a gellir trefnu teithiau arbennig ar gyfer gwahanol anghenion . Trafodwch gyda rheolwr y Ganolfan fel y medrwn wneud trefniadau addas, os gwelwch yn dda.
Cysylltwch â’r swyddfa am archebu.
Share this - Rhanwch hyn: