Joseph Bramah

Joseph Bramah- portrait in oils

Tua’r flwyddyn 1772 paciodd mab cloff gweithiwr ar Stad Stainborough (ger Barnsley, Swydd Efrog) ei fag a chychwyn cerdded i Lundain. Gan nad oedd yn gallu gweithio ar y tir troes at ddatblygu ei ddiddordebau mewn gwaith mecanyddol. Ar ôl cyfnod yn Llundain dechreuodd ei fusnes bach ei hun gan ddatblygu nifer o ddyfeisiadau rhyfeddol:

Tŷ bach yn gweithio gyda dŵr – cafwyd patent yn 1778 a defnyddiwyd am fwy na chanrif.

Clo – cafwyd patent yn 1784 a dyma’r clo mwyaf diogel am 70 mlynedd a mwy.

Injian stêm – rhwng 1792 ac 1799 fe wnaeth ei gynlluniau y boileri’n fwy effeithiol.

Peiriannau pwmpio – bu nifer o’i ddyfeisiadau o fudd i’r fasnach bragu, e.e. pwmp i godi cwrw o’r gasgen i’r bar lle câi ei werthu.

Ei ddyfais fwyaf enwog oedd y Prés Hydrolig (1795) gafodd ei ddefnyddio ar nifer o achlysuron gan beirianwyr enwog, yn eu plith Stephenson a’i defnyddiodd i godi tiwbiau Pont Britannia.

Peiriant plaenio pren – (1802) oedd yn gwneud wyneb y pren yn esmwyth. Cafodd ei ddefnyddio ar fetel yn ddiweddarach.

Y peiriant argraffu – 1806 dyma beiriant oedd yn argraffu rhifau ar arian papur.

Peirianneg sifil – Roedd Bramah bob amser yn gweithio ar gynhyrchu ei ddyfeisiadau. Yn 1812 cafodd batent ar gynllun blaengar i osod peipiau dŵr trwy Llundain i gario dŵr dan bwysau er mwyn diffodd tanau. Cynlluniodd waith dŵr newydd llwyddiannus yn Norwich (1790-93).

Bu farw Bramah yn 1814 a dyma sydd ar ei gofeb yn Eglwys Silkstone (Swydd Efrog).

….by rare genius and eminent perseverance, he Advanced himself to considerable eminence as an engineer and a machinist and matures several inventions of the greatest public utility…

Cydnabyddir Brian Elliott – The Making of Barnsley- Wharncliffe Publishing 1988.

Share this - Rhanwch hyn: