Pont Grog y Borth

Menai Suspension Bridge
Menai Suspension Bridge

Wedi’i chwblhau 1826 — Hanes Byr
Roedd y daith i Ynys Môn yn un beryglus am ganrifoedd. Roedd sawl fferi’n croesi’r Fenai, ond roedd gwyntoedd y môr yn anodd eu rhagweld. O ganlyniad i hyn collodd llawer o bobl eu bywydau, a suddwyd llawer o gychod.

Ym 1800, unwyd Iwerddon â Phrydain fawr trwy’r Ddeddf Uno. O ganlyniad i hyn cynyddodd y nifer o bobl a oedd angen croesi’r Afon Menai, fel gwleidyddion a oedd yn cymudo o Iwerddon i’r Senedd yn Llundain.

Roedd y ffordd o Gaergybi i Lundain yn un hollbwysig, yn cynrychioli’r cyswllt rhwng y Senedd a’r Iwerddon. Serch poblogrwydd y ffordd, roedd y daith yn dal yn un beryglus.

Plans of the Menai Bridge
Telford’s original design for a bridge across the Menai Strait.

Yn 1819, cychwynnodd peiriannydd o’r enw Thomas Telford waith ar wella’r ffordd o Lundain i Gaergybi. Gwelodd Telford y perygl wrth deithio ar draws y Fenai a phenderfynodd ddylunio pont grog uchelgeisiol – Pont y Borth.

Menai bridge toll

Gorffennwyd y gwaith ar 30 Ionawr 1826, roedd y bont yn waith peirianneg sifil anhygoel – y bont grog fwyaf yn y byd ar y pryd! Roedd 16 cadwyn anferth 579 droedfedd-o-hyd yn dal y bont 100 troedfedd uwchben y môr gan adael i gychod hwylio oddi tani. Caniateir i gychod hwylio deithio ar hyd y Fenai heb rwystr, yn ogystal â gadael i bobl groesi’r Fenai yn y fan fwyaf cul.

O ganlyniad i waith Telford ar y bont, cafodd ei gydnabod fel cawr o beiriannydd. Yn ogystal â hyn, roedd y bont wedi lleihau’r daith rhwng Llundain a Chaergybi a’i gwneud yn fwy diogel. Cafodd yr amser teithio ei leihau o 36 awr i 27 ar ôl i’r holl welliannau gael eu gorffen.

Share this - Rhanwch hyn: