Croeso i Treftadaeth Menai!

info heading

info content

Prosiect cymunedol ydym ni sydd yn ymwneud â’r ddwy bont enwog sydd yn ein hardal sef ; Pont y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford a Pont Britannia a adeiladwyd gan Robert Stephenson. Mae’n hamgueddfa drwyddiedig yn llawn o ddarnau hanesyddol, lluniau, ffilmiau, cwisiau ac arweinwyr profiadol i’ch tywys o gwmpas. Gallwch gymeryd tro dros Bont y Borth ac oddi tani a cewch weld y llewod ar Bont Britannia. Gallwch hefyd adeiladu eich pontydd eich hun a phrofi’ch gwybodaeth.

Britannia Tubular Bridge
Pont Britannia

Ar ein safle wê cewch wybodaeth am

  • Yr arddangosfa yng Nghanolfan Thomas Telford
  • Llefydd i fynd am dro
  • Sgyrsiau
  • Y Fenai
  • Y Pontydd a’r Peiriannwyr a’r Crefftwyr fu’n gyfrifol amdanynt
  • A llawer mwy

Dewch i gael hwyl yn darganfod mwy am yr ardal arbennig yma gyda’i phontydd bydenwog a’i pheiriannwyr arloesol, a cewch gyfle i grwydro tref hanesyddol Porthaethwy a’r ardal hudolus hyd lan y dŵr.

Mae Canolfan Telford ar agor yn dymhorol; cewch yr union amseroedd ar y dudalen benodol. Gellwch hefyd gadw llygad am ddigwyddiadau arbennig neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r swyddfa i drefnu ymweliad arbennig i grŵpiau.

ZZ_1160044125_ERIHmembershiplogo2 vaqas_new

chartermark_2015_rgb

Share this - Rhanwch hyn: