Mae Canolfan Thomas Telford ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn ar gyfer achlysuron a gweithgareddau cymunedol. Mae’n adeilad hanesyddol – yn Ysgol Genedlaethol a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1854 ac sydd wedi ei hadnewyddu’n ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Neuadd
- ar gael i’w llogi gan grwpiau lleol
- yn cael ei defyddio ar gyfer darlithoedd
- yn gartref i Arddangosfa’r Pontydd pan yn agored i’r cyhoedd
Oddi fewn yr adeilad mae
- cegin fodern
- sustem sain a thaflunydd
- gwres canolog
- byrddau a chadeiriau
- toiledau
Mae grisiau yn arwain i fyny at fynedfa’r adeilad ond mae modd myned i’r adeilad mewn cadair olwyn o’r cefn.
Am fwy o fanylion neu i logi’r Neuadd, cysylltwch a Swyddfa Treftadaeth Menai.