Cyfrannu Rhodd

Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Treftadaeth Menai yn elusen cofrestredig (Rhif 1082013) a sefydlwyd yn 1997 i ddathlu’r ddwy bont byd enwog sy’n croesi’r Fenai, eu Peiriannwyr a’u hadeiladodd, y bobl a’r bywyd gwyllt tanforol a’r ardal o harddwch arbennig sy’n bodoli o amgylch plwyf Porthaethwy.

Yn elusen, ‘rydym yn dibynnu’r sylweddol ar gymorth a chyfraniadau hael gan unigolion, mudiadau a busnesau. Bydd unrhyw rodd yn gymorth tuag at :

  • Gofalu a datblygiad ein casgliadau o wrthrychau, dogfennau, lluniau yn ymwneud a’r pontydd a’r gymdeithas a’r ardal o’u cwmpas.
  • Cadw Canolfan Thomas Telford ar agor sydd yn cynnig :
    • adeilad cymunedol gwerthfawr
    • ganolbwynt addysgiadol
    • atyniad twristiaeth sy’n arddangos gwybodaeth am y ddwy bont a’r Afon Menai a’i dalgylch.
  • Datblygiad ein adeilad ar Pier y Tywysog fel cartref parhaol y Casgliad a’r Amgueddfa.

Cyfrannu ar-lein

Gallwch gyfrannu ar-lein drwy ddefnyddio gerdyn debyd neu gredyd ar wefan BTMyDonate. Drwy glicio’r botwm canlynol byddwch yn cael eich tywys yn syth i’r wefan :

Make a donation using Virgin Money Giving

Cyfrannu drwy’r post neu’n bersonol :

Gallwch gyfrannu drwy anfon siec neu alw i’r swyddfa yn

Canolfan Thomas Telford
Ffordd Mona
Pothaethwy, Ynys Môn
LL59 5EA

Os ydych chi’n drethdalwr ym Mhrydain gallwch wneud i’ch cyfraniad fynd ymhellach heb gostio dim mwy i chi. Am bob £1 sy’n cael ei gyfrannu, gall yr Ymddiriedolaeth dderbyn 25c yn ychwanegol gan HM Revenue & Customs drwy Gift Aid. I wneud hyn, llenwch y ffurflen yma ac anfonwch ef i ffwrdd gyda’r gyfraniad.

Share this - Rhanwch hyn: