Pen wythnos o “Ymchwilio i Beirianneg” – Mehehin 22 a 23 2019

Ymweld â Tŷ’r Bont ar Bont Menai a chrwydro rhwng y Ddwy Bont

Ymunwch â Treftadaeth Menai a ICE i gael cyfle i weld y tu fewn i Dŷ’r Bont ac i ymweld a chlywed hanes y pontydd

Dydd Sadwrn y 22 o Fehefin bydd pedwar cyfle prin i ymweld â Thŷ’r Bont lle mae’r cadwyni sy’n angori Pont Menai wedi eu lleoli.

Bydd yr ymweliadau yn cychwyn am 9:30, 11:15, 13:15 a 15:00. Nodwch yr amser pan yn bwcio o.g.y.dd. Bydd pawb yn cyfarfod wrth yr adeiald ar ochor Gwynedd i’r bont.

Bydd hetiau caled ar gael a cynghorir pawb i gael esgidiau gweddus i’r dasg. Ferched – dylech wisgo trowsus gan fod angen dringo grisiau agored. Nid yw’n addas ar gyfer plant dan 5 oed.

Ar Ddydd Sul y 23 o Fehefin bydd dwy daith gerdded sy’n cynnwys y ddwy bont gan deithio trwy Erddi Botaneg Treborth a chael cyfle i weld y Llewod a darn o’r hen diwb wrth Bont Britannia.

Cychwynir y teithiu hyn am 10:00 a 14:00 a byddant yn para’ am tua dwy awr a hanner. Nodwch yr amser pan yn bwcio o.g.y.dd.

MAE’N HANFODOL I FWCIO – cyfyngir yr ymweliadau i Dŷ’r Bont i 12 ac i 30 ar gyfer y ddwy daith gerdded. Cost £5.00 i oedolyn, £3 i blant. Bydd yr elw yn mynd tuag at Angueddfa Treftadaeth y Fenai.

Cysylltwch â info@menaiheritage.org.uk neu 01248- 715046. Bydd angen talu ymlaen llaw i sicrhau lle, cewch y manylion wrth gysylltu.

Share this - Rhanwch hyn: