Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru 2019

Taith ar y cyd gan Treftadaeth y Fenai a Chrwydwyr Cymru i ddathlu 7ed
penblwydd agor Llwybyr Arfordir Cymru.

Byddwn yn arwain dwy daith ar lan y Fenai. Ar Daith Glannau’r Fenai cewch glywed am y gwahanol ffyrdd o groesi i’r tir mawr gyda chwch a phont, datblygiad tref Porthaethwy o 1826 ymlaen ac am yr adeiladau arwyddocaol a’r cymeriadau cysylltiedig. Byddwn hefyd yn trafod daeareg, cyn hanes, ffeithiau morwrol ac effaith y llanw yn ogystal â sȏn am fywyd gwyllt yr ardal.

Bydd Taith y Ddwy Bont yn ymdrin â hanes y ddwy bont. Cewch weld y Llewod oedd ar un adeg wedi eu lleoli wrth geg y ddau diwb oedd yn ffurfio’r bont wreiddiol ac mae hefyd ddarn o’r tiwb gwreiddiol i’w weld.

Mae angen bwcio ymlaen llaw. Am fwy o fanylion a sicrhau lle, ewch i :

Daith Glannau’r Fenai – https://www.eventbrite.co.uk/e/menai-heritage-menai-bridge-waterfront-walk-tickets-58436796030
Taith y Ddwy Bont – https://www.eventbrite.co.uk/e/menai-heritage-two-bridges-walk-tickets-58427948567

Share this - Rhanwch hyn: