Dau gan mlynedd yn ôl, cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu Pont Grôg Menai. Ar Ddydd Sadwrn 10fed o Awst bydd Treftadaeth Menai (yr elusen annibynnol sy’n rhedeg Arddangosfa’r Pontydd ym Mhorthaethwy) yn cynnal dau ddathliad ar lan y Fenai i goffáu’r diwrnod y gosodwyd y garreg gyntaf.
Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ddysgu am fywyd yn y 19eg ganrif ac ysgogi pobl i ddychmygu’r fath brofiad oedd sefyll ar drothwy Pont mor eiconig i’r Dyfodol.
Drwy gydol y dydd, bydd Ffair Hanes yn cynnig gwybodaeth ac yn arddangos y sgiliau oedd eu hangen ar gyfer adeiladu pontydd yn y 19eg ganrif. Bydd cyfle hefyd i glywed sut oedd pobl leol o’r cyfnod hwnnw’n meddwl sut y buasai’r Bont yn dylanwadu ar eu bywydau.
Wedyn, toc wedi hanner dydd, wrth droed Pont Grôg Menai, i sŵn cymeradwyaeth, fe ddadorchuddir llechfaen gan aelodau hŷn o broffesiwn y Peirianwyr Sifil, gyda chymorth Ms N Rh Jones, Cadeirydd Treftadaeth Menai, fel rhan o seremoni i ddathlu gosod y garreg gyntaf.
Cynhelir y Ffair Hanes yng Nglanfa’r Tywysog, Stryd y Paced, Porthaethwy, o 10am hyd 4pm. Bydd gweithgareddau’r Ffair yn cynnwys:
- Anglesey Masonry – Arddangosfa o hollti cerrig drwy dechneg ‘plug & feather’
- Geomôn – Dysgu am garreg calch
- Treftadaeth Menai – Arddangosfeydd o godi a symud cerrig
- Treftadaeth Menai – Adeiladu model o bont
- Prifysgol Bangor, Ysgol Gwyddorau Eigion – Dan wyneb y Fenai
- Oriel Ger-y-Fenai – Argraffiadau o’r pontydd ar werth
- Amgueddfa Arforol Caergybi – Capten llong a thaclau arforol, hefyd nwyddau o’r Amgueddfa ar werth
- Gwirfoddolwyr Arforol (yn wreiddiol o long y ‘Clio’) – Clymu rhaffau
- Peirianwyr Ymgynghorol Cadarn – lluniadu
- Treftadaeth Menai – llyfrau a nwyddau, yn cynnwys y llyfr newydd gan Bob Daimond a Threftadaeth Menai: “Menai Suspension Bridge The First 200 Years”