Ynghyd â’n harddangosfa ar yr HMS Conway, bydd Treftadaeth Menai yn cynnal darlith arbennig ar hanes y llong.
Ar yr 2il o Fehefin bydd Alfie Windsor, sydd yn gyn gadet oddiar y llong yn ogystal â bod yn arbenigwr ar ei hanes, yn cyflwyno darlith ar hanes y llong. Disgwylir nifer o gyn gadetiaid i’r amgylchiad hefyd a bydd croeso i’r cyhoedd i sgwrsio gyda hwy ar ôl y ddarlith. Bydd y ddarlith yn cychwyn am 2 y p’nawn a dylai bara tua 90 munud. Fe’i cynhelir yng Nghanolfan Thomas Telford (gyferbyn â Waitrose).
Share this - Rhanwch hyn: