Bob Daimond (1946-2020)

Bob DaimondGyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cyn gadeirydd, trysorydd ac ymddiriedolwr, Bob Daimond. Bu Bob yn gysylltiedig â Treftadaeth Menai ers 2005 a chwaraeodd ran flaenllaw ym mhryniant ac adnewyddu ein safle presennol, sef Canolfan Thomas Telford, ac yn natblygu y casgliadau a’r arddangosfeydd ynghyd â’r gwaith cyffredinol o redeg yr Ymddiriedolaeth. Roedd yn hyddysg yn hanes y ddwy bont ynghyd â’u dylunwyr, Thomas Telford a Robert Stephenson ac roedd wrth ei fodd yn pasio’r wybodaeth ymlaen trwy arwain teithiau o gwmpas y pontydd a thrwy gynnal gweithdai i ysgolion yn trafod y pontydd a pheirianneg yn gyffredinol.

Peiriannydd sifil wrth ei waith a chyn Gyfarwyddwr Priffyrdd Cyngor Gwynedd, roedd yn chwarae rhan flaenllaw yn hyrwyddo peirianneg trwy Sefydliad y Peirianwyr Sifil  a’r Chartered Institution of Highways and Transportation. Fe’i ganwyd a’i magwyd yn Lloegr a daeth yn rhugl yn yr Iaith Gymraeg wedi symud i Gymru ac fe’i derbynwyd i Orsedd y Beirdd ym 2017. Roedd i’w weld a’i glywed yn rheolaidd ar deledu a radio yn siarad am beirianneg ac am y pontydd a hynny yn Gymraeg a Saesneg.

Uchafbwynt ei ymroddiad i’r Ymddiriedolaeth ac i beirianneg sifil yn gyffredinol oedd cyhoeddi ei lyfr Menai Suspension Bridge – The First 200 Years. TMae’n lyfr o 200 tudalen sy’n cynnwys nifer fawr o luniau ac mae’n dweud hanes adeiladu’r bont a’r adnewyddiad diweddarach. Fe’i cyhoeddwyd ym 2019 ac mae mynd garw arno.

Mae marwolaeth Bob yn dilyn colled arall i’r Ymddiriedolaeth pan fu farw Shaun McLoughlin fis Gorffennaf diweddaf. Bu Shaun yn ymddiriedolwr ers y dechrau yng nghanol y 1990au a chwaraeodd ran amhrisiadwy yn natblygiad y mudiad, yng nghynllunio at y dyfodol a chodi arian. Bydd colled fawr ar ȏl y ddau.

Share this - Rhanwch hyn: