Prosiect Cofnodi Cofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Diwrnod Agored – 4ydd Tachwedd 2018

I nodi can mlynedd ers y cadoediad, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi bod yn cynnal prosiect cofnodi yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, wedi’i ariannu gan Cadw. Gyda chymorth gwirfoddolwyr, rydym wedi bod yn cofnodi cofebau ac enghreifftiau o goffáu y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwynedd.

Ymunwch â ni ar ddydd Sul 4ydd Tachwedd 2018 (10:00am – 4:00pm) yn y Neuadd Goffa ym Mhorthaethwy am ein diwrnod agored arbennig. Cewch wybod mwy am y prosiect a gweld arddangosfa ffotograffig o rai o’r delweddau ingol rydym wedi’u tynnu hyd yma. Nid oes rhaid archebu lle, dim ond galw heibio. Bydd te a choffi am ddim ar gael.

Hefyd yn rhan o’r diwrnod agored fydd prosiect cymunedol ‘Treftadaeth Menai a’r Rhyfel Byd Cyntaf’ Treftadaeth Menai. Roedd y prosiect hwn, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn canolbwyntio ar effaith y Rhyfel Mawr ar bobl Porthaethwy.

Nifer fach o fannau parcio sydd ar gael yn ymyl y Neuadd Goffa, felly rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried opsiynau parcio eraill yn y dref (gan gofio fod rhai o’r meysydd parcio hyn yn rhai ‘talu ac arddangos’).

Byddwn hefyd yn cynnal dwy daith dywys ar y diwrnod, i weld cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf ar Ynys Tysilio gerllaw. Os ydych eisiau ymuno â ni ar un o’r teithiau tywys hyn, bydd angen archebu lle – i wneud hynny, cysylltwch â Dan Amor Dan.amor@heneb.co.uk 01248 366970.

Share this - Rhanwch hyn: