Llyfr Newydd – Llewod Pont Britannia/The Lions of Britannia Bridge

Book coverMae’n bleser gan Treftadaeth Menai, yr elusen annibynnol sy’n rhedeg yr Arddangosfa Bontydd boblogaidd ym Mhorthaethwy, i hysbysu cyhoeddi eu llyfr cyntaf i blant, Llewod Pont Britannia / The Lions of Britannia Bridge.

Mae wedi ei ysgrifennu gan yr awdures plant flaenllaw, F.J.Beerling ac wedi ei ddarlunio gan Lucy Gilbert. Llyfr dwyieithog Cymraeg/Saesneg yw, yn dweud hanes merch ifanc glyfar o’r enw Urada sy’n hoffi datrys posau ac sydd eisiau bod yn beiriannydd. Mae’n teithio i lan y Fenai yng Nghymru i weld Pont Britannia, a thra yno mae’n dod yn ffrind i un o’r llewod carreg sy’n gwarchod y fynedfa i’r bont.

Dywedodd Jenny Porter, un o ymddiriedolwyr Treftadaeth GymunedolTreftadaeth Porthaethwy a’r un sy’n gyfrifol am drefnu’r prosiect i gynhyrchu’r llyfr, “Mae’r llyfr wedi ei anelu at blant 7-11 oed, yng nghyfnod allweddol 2 ac mae’n defnyddio’r stori i ennyn diddordeb plant mewn datrys problemau ac mewn dyfeisgarwch peirianneg.” Cefnogwyd y cyhoeddiad gan Mott Macdonald, cwmni o ymgynhorwyr peirianyddol, rheolaeth a datblygiad, byd-eang.

Mae’r llyfr yn costio £5.99 a gellir ei brynu ar lein ar menaibridges.co.uk/llyfrau-plant. Bydd hefyd ar gael mewn siopau llyfrau a mannau twristiaeth yn ogystal ag o Arddangosfa Treftadaeth Menai yng Nghanolfan Thomas Telford, pan fydd wedi ail agor.

Share this - Rhanwch hyn: