Glanfa’r Tywysog

Prince's Pier

Glanfa’r Tywysog sy’n cael ei ddatblygu gan Dreftadaeth y Fenai oedd calon gweithgareddau morwrol y Borth yn y 19eg ganrif – gwaith y fferi cyn codi’r bont, masnachu gyda gweddill y byd a datblygu twristiaeth yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.

Cyn dechrau codi Pont y Borth yn 1818 tir comin yn bennaf oedd y tir ar lan y Fenai. Ychydig iawn o adeiladau oedd yno. Y pwysicaf o’r rheini oedd Tafarn y Cambria lle’r oedd pobl yn aros am y fferi. Ar ôl dechrau codi’r bont daeth llawer iawn o weithwyr i’r ardal ac roedd angen siopau i werthu bwyd a nwyddau angenrheidiol iddynt.

Sylweddolodd Richard Davies, siopwr o Langefni, bod cyfle i sefydlu busnes ymhlith y gweithwyr. Roedd angen mewnforio nwyddau a’u cadw cyn eu gwerthu ac roedd digon o dir adeiladu addas ar lan y Fenai. Yn 1828 cafodd les ar dir, ar Stryd y Paced heddiw, gan Ardalydd Môn ac adeiladodd warws yno. Mae’r adeilad hwn sydd wedi ei adnewyddu’n ddiweddar ger Tafarn y Liverpool Arms.

Byddai nwyddau’n cael eu cario o Borth y Wrach (porth ar gyfer cychod pleser heddiw) a Phorth Daniel – ar ben y promenâd heddiw. Ymhen tua 10 mlynedd John, mab Richard Davies, oedd yn gyfrifol am y busnes, a dechreuodd ehangu trwy godi cei ar y tir rhwng y ddau borth er mwyn derbyn llongau mwy. Cafodd y Warws a Thŷ’r Pierfeistr eu hadeiladu’n ddiweddarach, ddiwedd yr 1840au neu ddechrau’r 1850au.

Er mwy ehangu’r busnes prynodd John Davies gyfranddaliadau mewn nifer o longau wedi eu hadeiladu’n lleol. Byddai’r rhain yn cario coed o Ogledd America yn ogystal â nwyddau eraill. Cododd felin goed oedd yn cael ei gweithio gyda stêm i’w trin. Prynodd y teulu Davies eu llong eu hunain The Chieftain a adeiladwyd yn St. John, New Brunswick, Canada i fewnforio coed o Quebec ac allforio llechi o’r chwareli a chario pobl oedd yn chwilio am fywyd gwell i New Orleans a phorthladdoedd eraill ar lannau Mecsico.

 

Isolda
Isolda yn dadlwytho coed yng Nglanfa’r Tywysog.

Y datbygiad nesaf oedd prynu mwy o longau – 11 i gyd – gan deithio yn ôl ac ymlaen yn gyson rhwng y Borth a Gogledd America. Wrth i’r teulu ehangu mwy fyth ar eu busnes i Beriw ac Awstralia dechreuwyd defnyddio porthladdoedd eraill ac arafodd y masnachu o Lanfa’r Tywysog. Erbyn yr 1860au ychydig iawn o longau mawr oedd yn cario nwyddau i’r Borth. Y llong fawr olaf o eiddo’r teulu i ddefnyddio’r Borth oedd y Lord Stanley ddaeth â llwyth o goed o Quebec yno yn 1868.

Yn fuan wedyn dechreuodd y City of Dublin Packet Company ddatblygu’r ardal i dderbyn llongau stêm oedd yn teithio arfordir Gogledd Cymru o Lerpwl. Roedd glanfa haearn wedi ei chodi oddi ar gei y teulu Davies ac roedd yn addas i’r llongau stêm lanio yno. Cafodd ei ddefnyddio hyd nes codwyd glanfa newydd San Siôr yn 1904.

Byddai Glanfa’r Tywysog yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer y llongau bach oedd yn cario coed i’r iard goed ym Mhorth Daniel a nwyddau eraill oedd yn cael eu cadw yn yr hen warws ar y cei. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Glanfa’r Tywysog ei hawlio gan y Morlys ar gyfer llongau oedd yn gwarchod Y Fenai. Buont yno tan 1959. Defnydd achlysurol wnaed o’r warws ar ôl hyn i drwsio offer, ar gyfer yr iard goed ac, ar ôl cau hon, i gadw cychod.

Yn 2007 gwnaeth David Longley o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd arolwg o’r warws gan nodi amryw o ddatblygiadau diweddar oedd yn amharu ar yr adeilad gwreiddiol, sef pebble dash a ffenestri plastig. Gan gyfeirio at y rhain dywedodd:

Notwithstanding, the wharf and warehouse have retained much of their original historic character and contribute very significantly to the atmosphere and character of this waterfront landscape. The immediate proximity of other structures of similar date and related function and the historic depth of the landscape within which these structures sit, contribute very considerable group value to the wharf and warehouse.

Glanfa’r Tywysog 2014
Glanfa’r Tywysog 2014

Cafodd argymhellion David Longley am adfer yr adeilad i ddangos y nodweddion gwreiddiol eu hystyried wrth i’r gwaith adnewyddu diweddar gael ei wneud gan Dreftadaeth Menai, Menter Môn a’u partneriaid. Bydd cymeriad hanesyddol yr adeilad yn cyfoethogi’r ymdeimlad o dreftadaeth wrth i ni ddatblygu’r safle yn amgueddfa gyflawn.

Share this - Rhanwch hyn: