Mae Cei Glanfa’r Tywysog, ger canol tref y Borth, yn un o’r safleoedd gorau ar y Fenai gyda golygfeydd hardd o Bont y Borth ac ar hyd y Fenai at Bier Bangor a Biwmares. Prosiect diweddaraf Treftadaeth Menai ydy datblygu’r hen warws ar y cei yn canolfan dreftadaeth ac yn gartref parhaol i’n casgliadau.
Roedd yr adeilad hwn o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cael ei ddefnyddio gan y teulu Davies ar gyfer eu busnes, mewnforio coed ac allforio llechi, ymhlith nwyddau eraill, i Ogledd America ac yn ddiweddarach i bob cwr o’r byd. Cafodd ei brynu gan Menter Môn i’w ddatblygu ar y cyd â Threftadaeth Menai. Gorffennwyd rhan gyntaf y datblygiad yn ystod gwanwyn 2014. Adnewyddwyd cragen yr adeilad a newid Tŷ’r Pierfeistr yn ddwy swyddfa. Cafodd y gwaith ei wneud gan Advent Project Management, y cynllunwyr WM Design & Architecture a’r contractwyr WF Clayton & Co. Mae lluniau o’r gwaith i’w gweld ar dudalen Facebook WM Design & Architecture.
Rydym yn canolbwyntio yn awr ar gynllunio a chodi arian ar gyfer datblygu Glanfa’r Tywysog yn canolfan dreftadaeth a hwb cymunedol. Ein nod yw ei gwneud yn adnodd arbennig iawn lle gall ymwelwyr ddysgu am hanes yr ardal ac yn lle i fwynhau’r amgylchedd arbennig hwn. Rydym yn croesawu pob cyfraniad a chymorth ariannol, boed fawr neu fach. Os hoffech ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ewch i’n tudalen cyfrannu os gwelwch yn dda.
Yn y cyfamser bydd nifer o arddangosfeydd, cyngherddau a digwyddiadau arbennig yng Nglanfa’r Tywysog. Ewch i’n Tudalen Digwyddiadau arbennig i weld pryd i ymweld â’r safle. Gallwch ddarllen mwy o hanes Glanfa’r Tywysog yma.
Dyma lle mae Glanfa’r Tywysog: