Sut i ddod o hyd i ni

CTT-WaitroseGallwch ddod o hyd i gartref Treftadaeth Menai sef Canolfan Thomas Telford, ar Ffordd Mona, Porthaethwy, rhyw 300 llath cyn cyrraedd Pont Menai ar ochr Ynys Môn. Lleolir y Ganolfan ar draws y ffordd i faes parcio archfarchnad, Waitrose fel y dangosir ar y map, isod.

Mae darpariaeth cyfyngedig o lefydd i barcio ceir o flaen y Ganolfan sydd am ddim, and mae darpariaeth fwy ar gael 100 llath i lawr y ffordd yng Nghoed Cyrnol sydd yn faes parcio Talu ac Arddangos.

I fynychu’r adeilad o’r tu blaen mae grisiau yn arwain i fyny tua’r fynedfa ond mae modd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn fynychu’r adeilad o’r cefn.

 

Canolfan Thomas Telford
Ffordd Mona
Porthaethwy, Ynys Môn.
LL59 5EA

Ffôn : 01248 715046

Share this - Rhanwch hyn: