Treftadaeth Menai – Trydedd bont dros y Fenai ar gyfer yr A55

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy yn 1997 gyda’r bwriad o wella’r ymwybyddiaeth a’r dealltwriaeth o hanes y Fenai a’i phontydd eiconic sydd o arwyddocad rhyngwladol. Yn 2007 prynodd yr Ymddiriedolaeth yr adeilad a adwaenir yn awr fel Canolfan Thomas Telford a sefydlwyd yr Arddangosfa Bontydd, sydd yn amgueddfa gofrestedig ers 2013. Mae’r arddangosfa yn cynnwys hanes y ddwy bont.

Mae’r Yymddiriedolaeth yn awyddus nad yw unrhyw ddatblygiad ar, neu’n agos i’r Fenai yn amharu ar dreftadaeth amgylcheddol a strwythurol yr ardal. Yn dilyn ymgynghoriad gyda gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnig y sylwadau canlynol mewn ymateb i’r broses ymgynghorol.

  1. Mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu’r bwriad o gael darpariaeth digonol ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Dylai hyn gynnwys y cyhoedd i wneud mwy o ddefnydd hamdden ar hyd y ddau lwybyr arfodir sydd rhwng y ddwy bont. Mae’r Ymddiriedolaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall hyn ei gyflawni trwy ddefnyddio’r llwybyr gwasanaeth sy’n rhedeg gyfochrog â’r rheilffordd ar y bont bresennol. Gellid yn hawdd adgyfnerthu ychydig ar yr amddiffynfeydd diogelwch a gwneud ychydig o waith addasu y naill ben i’r bont er mwyn creu cysylltiad â’r llwybrau presennol.
  2. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymwybodol o’r grêd ymysg rhai nad yw’r prysurdeb traffig presennol yn cyfiawnhau adeiladu pont newydd ddrudfawr, ond maent yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu’n barod nad yw “Gwneud Dim” ddim yn opsiwn.
  3. Buasai’r Ymddiriedolaeth yn croesawu mwy o wybodaeth am y gwaith ymchwil â wnaed hyd yma ar ystyriaethau eraill yn lle pont newydd yn ogystal â dadansoddiad ar y gost fanteisiol, gan gynnwys y senario o “Wneud Dim”. Gellid ystyried opsiynau fel “Park and Ride” a mwy o ddefnydd o’r rheiffordd (gwasanaethau lleol, teithiau pell a’r defnydd ar gyfer cludiant trwm.)
  4. Mae’r Ymddiriedolaeth yn poeni am effaith niweidiol posibl y cynigion i osod ceblau trydan naill ai dros neu oddi tan y Fenai yn ogystal ag effaith adeiladu pont newydd.  Mae’r Fenai a’i glannau’n cael ei cydnabod fel ardaloedd gwarchod natur o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Ymhellach mae’r amgylchfyd a’r tirwedd o gwmpas yn un dynodedig ac mae’r pontydd yn strwythurau gradd I a II rhestredig.
  5. Mae’r Ymddiriedolaeth felly yn credu y dylai unrhyw adeiladwaith o ganlyniad i’r broses ymgynghorol hon gynnwys cynlluniau digonol ar gyfer y cyfarpar trosglwyddo pŵer a fydd, efallai, yn dod yn anhepgor. Yr ydym felly’n argymell fod Llywodraeth Cymru a’r Grid Cenedlaethol yn cydweithio er mwyn sicrhau fod y penderfyniad mwyaf derbyniol yn economaidd ac amgylcheddol yn cael ei fabwysiadu a’i weithredu.
  6. Fe ystyrir yr olygfa o’r naill bont tuag at y llall a’r llecyn o’r Fenai sydd rhwng y ddwy bont, yn rhai o bwysigrwydd hanfodol i dreftadaeth yr ardal yn ogystal ac i dwristiaeth Gogledd Cymru. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad sy’n amharu ar yr asedau cynhenid yma gael ei ganiatau.
  7. Yr unig lwybyr yn yr ymgynghoriad sydd yn osgoi’r asedau yw’r un i’r Gorllewin o Bont Britannia, sef rhwng y bont a’r gwifrau trydan (y Llwybyr Coch). Mae pob cynnig arall yn rhedeg rhwng y ddwy bont i’r Dwyrain o Bont Britannia. Fe dderbynnir y golyga’r opsiwn hwn wariant ychwanegol o achos agosrwydd y ceblau trydan presennol.
  8. Mae’r Ymddiriedolaeth yn credu na ddylai’r bont newydd orbwyso uwchben yr un bresennol. Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn derbyn y gosodiad a wnaed yn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus oedd yn cynnig gan fod rhan o’r Bont ddim ond yn dyddio o’r 1980au, na ddylid ei hystyried yn safle treftadol. Mae rhannau helaeth ohoni’n dyddio o 1850 ac mae’n strwythur rhestredig.
  9. Mae’r Ymddiriedolaeth felly yn ystyried nad yw pont geblau na phont ecstrados yn dderbyniol. Mae pont gantilifrog gytbwys yn ateb gofynion yr Ymddiriedolaeth ond yr ydym o’r farn nad oes ymchwil digonol wedi ei wneud i’r opsiwn o gael pont span sengl gyda proffeil isel, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
  10. Mae’r Ymddiriedolaeth felly yn argymell astudiaeth bellach i’r posibilrwydd o gael dyluniad span sengl a fuasai’n gweddu’n well yn gyfochrog â’r bont bresennol. Buasai cynllun felly, nid yn unig yn gwella edrychiad y Bont ond yn osgoi’r angen i wneud gwaith ar Garreg Frydan neu yn nŵr y Fenai ac yn golygu na fuasai angen amharu ar ecosystem y Fenai. ‘Roedd pont grog Telford a phont Stephenson yn orchestion peirianyddol arloesol ac mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig gwahodd cynigion am ddyluniau newydd a fuasai nid yn unig yn esiampl o beirianneg arloesol yr 21 Ganrif ond a fuasai’n ychwanegu at ddau gampwaith hanesyddol o bwys.
  11. Mae’n ffaith fod pontydd trawst o ddyluniad bocs ac yn bellter llawer mwy na’r Llwybyr Coch wedi cael ei hadeiladu dros y degawdau diweddar. Gellid adeiladu’r bocs ar y lan a’i nofio i’w  safle cyn ei godi i’w le. Buasai’r dull yma’n lleihau’r galw i weithio yng nghyffiniau’r ceblau trydan ac yn dileu’n llwyr yr angen am weithio yn y Fenai ei hun. Buasai hefyd yn adlewyrchu’r ffordd yr adeiladwyd y bont wreiddiol yn 1850 yn ogystal a’r ffordd yr adeiladwyd y bwa yn y 1970au.

I gloi, mae’r Ymddiriedolaeth o’r farn, os y penderfynir i gyflawni’r galw i gludo mwy o draffig tros y Fenai, fod y Llwybyr Goch gyda span sengl proffeil isel yn fwy derbyniol na’r cynllun cantilifrog cytbwys a gynigir yn y ddogfen ymgynghorol.

Buasai’r Ymddiriedolwyr yn falch o groesawu aelodau o’r tïm i arddangosfa a chasgliad Treftadaeth Menai i drafod y prosiect yn fwy manwl. Fel amgueddfa gofrestedig buasem yn ddiolchgar i dderbyn set gyflawn o’r dogfennau sydd ynghlwm â’r prosiect i groesi’r Fenai.

Yn gywir

Bob Daimond B.Sc., C.Eng., C.Env., FICE, FCIHT.

Ymddiriedolwr

Share this - Rhanwch hyn: