Arddangosfa Pontydd Menai

“Pont y Fenai oedd y bont grog fawr gyntaf i’w hadeiladu ym Mhrydain ac yn oruchafiaeth aruthrol i’r Peiriannwr, Thomas Telford yn 1826 fel yn wir oedd y bont drws nesaf, sef Pont Rheilffordd Tiwbaidd Britannia i Robert Stephenson, 24 mlynedd yn ddiweddarach.”
Adam Hart-Davies – hanesydd gwyddonol y BBC

Img2014-04-14_094900

Mae’r Arddangosfa’n ymadrodd y stori o’r ddwy bont adnabyddus yma, y peiriannwyr a’u dyluniodd a’r crefftwyr a’r adeiladwyr a’i hadeiladodd, a beth ddigwyddodd wedyn.

Datblygwyd cynlluniau arloesol gan Thomas Telford a Robert Stephenson ar gyfer pontydd ffyrdd a rheilffordd ar draws dyfroedd dichellgar y Fenai ac fe newidwyd y daith o Ddulyn i Lundain am byth !
Suspension Bridge artefacts

  • dewch i weld celfi gwreiddiol o’r pontydd
  • dewch i weld ffilmiau o’r ailadeiladu
  • rhowch gynnig ar adeiladu eich pont eich hun a phrofi eich gwybodaeth drwy holiaduron
  • darganfyddwch fwy o hanes y dynion, y merched a’r plant oedd ymysg yr adeiladwyr i adeiladu Pont Britannia. A oedd unrhyw un o’ch cyndeidiau chi yn eu mysg ? Ai dyma oedd y rheswm y daethant i’r ardal ynteu gadael o’u herwydd ?
  • Ymchwiliwch luniau o’r boblogaeth leol am unigolion a oedd ynghlwm a’r adeiladu.
  • Estynnwch eich ymweliad gyda taith gerdded dros Pont y Fenai neu ewch i chwilio a darganfod y ddau lew tew ar Bont Britannia.
  • Edrychwch drwy ein llyfrau ac Oriel Luniau
  • Darganfyddwch fwy am ddyfroedd dwfn a pherygl yr Afon Fenai a phwy a beth sydd o dan y tonnau a’i phwysigrwydd i fywyd gwyllt ac ecolegol ei glannau a’r ardal yn gyffredinol.

Fel y gallwn reoli nifer yr ymwelwyr a fusech gystal â threfnu eich amser i ymweld ar Eventbrite.

Pris Mynediad – £5.00 i oedolion, plant o dan 16eg oed yn cael mynediad am ddim.


Steamer
La Marguerite ar ei ddaith olaf o’r Gwasanaeth Gogledd Cymru ym mis Medi 1925.

Oes diddordeb gennych yn y bobl oedd yn byw yn yr ardal cyn, ac wedi adeiladu’r pontydd ? ‘Doedd tref Porthaethwy ddim yn bodoli cyn agor Pont Grog y Fenai !

  • Astudiwch y lluniau ymysg ein casgliad
  • Darllenwch am hanes y dynion, y merched a’r plant oedd yn ymwneud â’r adeiladu
  • Dilynwch hanes ddatblygiad masnachol Porthaethwy
  • Dysgwch am hanes y llongau oedd yn defnyddio’r Fenai
  • Dewch i weld eitemau hanesyddol a bythgofiannau a gyflwynwyd gan y bobl leol

Steam Engine
Y Peiriant Stȇm oedd yn gweithio’r gwasgwyr hidrolig a ddefnyddwyd i godi’r unedau tiwb ar Bont Britannia.
Share this - Rhanwch hyn: