Pen Blwydd Thomas Telford yn 260 oed – 9ed o Awst, 2017

Awst y 9ed yw dathliad geni Thomas Telford 260 mlynedd yn ôl, ef oedd yn gyfrifol am y gwaith arloesol o ddylunio’r bont grog enwog, Pont y Borth, sy’n dal i wneud y gwaith hyd heddiw ac yn denu ymwelwyr o bellteroedd byd. Dowch i lawr i Lanfa’r Tywysog ar lan y Fenai ym Mhorthaethwy i’n helpu i ddathlu.

Mae’r dathliad – rhwng 2 a 5 y p’nawn ar ddydd Mercher Awst y 9ed – yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Canolbwynt y dathliad fydd tynnu amlunelliad o’r Bont gan ddefnyddio hen ddarnau £1 sydd yn dangos llun o’r Bont. Bu nifer o’r cyhoedd yn cyfrannu’r rhain ers i’r darnau £1 newydd, deuddeng ochor gael ei cyflwyno.

Bydd gweithgareddau i blant fel adeiladu pontydd, arlunio a lliwio ac arddangosfeydd yn dangos hanes y Telford a’r Bont. Hefyd bydd cyfle i brynu nwyddau a cewch gyfle i fynd am dro gyda un o’n harweinwyr o’r Ganolfan. Bydd darnau hanesyddol sydd yn gysylltiedig â’r Bont i’w gweld ac mae croeso i rhywun ddod ag eitemau sydd ganddynt i’w dangos.

Hefyd bydd bwydydd ar gael ar themau’r Bont ac mae Hufen Iâ Redboat wedi creu un newydd penodol ar gyfer yr achlysur. Bydd siop siocled Benjamin Lee hefyd yn paratoi siocled newydd ar gyfer y Borth ac mae’r ddwy dafarn o bobty’r Bont, sef Tafarn y Bont a’r Antelope, yn cefnogi’r achlysur.

Cliciwch yma i gael manylion ar sut i gyrraedd y Lanfa.

Ganwyd Thomas Telford yn 1757, yn Eskdale yn Ne Orllewin yr Alban. Mab i fugail oedd ac aeth ymlaen i fod yn un o beirianwyr mwyaf dylanwadol ei oes. Agorwyd Pont y Borth yn 1826 a hi oedd y bont grog hiraf yn y byd ar y pryd.

Mae Treftadaeth Menai yn dal i gasglu yr hen ddarnau punnoedd ar gyfer yr achlysur yma ac os hoffech gyfranu rhai, mae bwcedi casglu i’w cael yn Swyddfa Post y Borth, sydd ar y Stryd Fawr, ac ym Manc y Natwest yn Llangefni. Gallwch hefyd gyfranu yng Nghanolfan Thomas Telford (gyferbyn â Waitrose) sydd ar agor pob dydd Mercher ac Iau rhwng 10 y bore a 5 y p’nawn neu yn y bore ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Share this - Rhanwch hyn: