Ail agor Amgueddfa Treftadaeth Menai, Gwanwyn2021.

Ar ôl amrywiol drafodaethau dros yr wythnosau diweddaf, mae ymddiriedolwyr Treftadaeth Menai wedi penderfynu gohurio ail agor yr amgueddfa tan y Gwanwyn o 2021. Mae hyn yn anad dim i ofalu fod ein tïm o wirfoddolwyr yn ogystal â’r cyhoedd, yn gallu cadw’n saff. Byddwn yn ymgynghori gyda defnyddwyr y Ganolfan, yn ystod yr wythnosau nesaf ynglŷn â phryd y ca’nt ail gychwyn eu gweithgareddau hwy.

Rydym hefyd yn ystyried gweithgareddau eraill felly cadwch lygaid ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth. Rydym hefyd yn dal i gynnal ein cyhoeddiadau ar “#Museums From Home” sy’n amlygu eitemau o’n casgliad. Fel arfer ry’m yn ddiolchgar am eich holl gefnogaeth a’ch ymroddiad – cadwch yn ddiogel.

Share this - Rhanwch hyn: