Ynys Tysilio

Ynys Tysilio ac Eglwys Sant Tysilio

Mae ynys Tysilio yng nghanol y Fenai, a gellir ei chyrraedd drwy groesi llwybr bach o’r Belgian Promenade. Mae ei hanes yn peri cryn benbleth i’r trigolion gan nad oes llawer o wybodaeth ynghylch gwreiddiau’r lle.

Roedd Tysilio yn Sant o’r Chweched Ganrif a’r gred yw ei fod yn gyfrifol am sefydlu eglwys ar yr ynys ond nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn i gefnogi hyn.

St. Tysilio Church altar
Tu fewn i Eglwys Sant. Tysilio

Mae’r Eglwys sydd ar yr ynys ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl i’r 1400au. Nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd na chwaith paham. Ond mae’n eithaf teg tybio fod yr Eglwys bresennol wedi ei hadeiladu ar safle eglwys flaenorol. Mae’n Eglwys gymharol fach ac nid oes trydan ar yr ynys ond serch hyn, mae Gwasanaethau’n cael eu cynnal yno ac mae’n fan poblogaidd iawn ar gyfer priodasau.

Fel mewn sawl mynwent, mae cryn ddiddordeb yng ngherrig beddi’r ynys. Ceir trawstoriad eang o feddau teuluoedd lleol ond ceir yn ogystal feddau rhai o weithwyr y pontydd a fu farw wrth weithio arnynt, ynghyd â beddau rhai gweithwyr a ymgartrefodd yn lleol wedi i’r gwaith ar y pontydd ddod i ben. Mae’r bardd enwog, Cynan, wedi ei gladdu yno yn ogystal âl; rhai o deulu’r Davies, sef teulu busnes llwyddiannus yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar fan uchaf yr ynys fechan, mae cofeb i’r gwŷyr lleol a gollwyd yn ystod y rhyfeloedd byd. Y fan yma yw’r lle gorau i edrych ar y Fenai yn ei holl ogoniant a’r ddwy bont sy’n ei chroesi.

Share this - Rhanwch hyn: