- DATBL YGIAD Y PIER
Dechreuodd y gwaith ar adnewyddu cragen hen warws teulu’r Davies ar y pier ym mis Hydref. Bu Menter Môn, perchnogion yr adeilad, yn cydweithio’n agos gyda YTGP ac Advent, rheolwyr y prosiect, W.M. Design, y cynllunwyr a Claytons yr adeiladwyr.Dylem gael yr adeilad i’n dwylo erbyn diwedd Mawrth, felly byddwch yn barod am ddigwyddiadau yno yn ystod yr haf. Mae dwy swyddfa yn Nhŷ’r Pierfeistr ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu tenantiaid iddynt. - APEL CYLLID
Rydym angen £15,000 0 hyd gan y gymuned fel arian cyfatebol at arian gan y Llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd. Fedrwch chi helpu? Dim ond i 3000 0 bobl gefnogi’r apêl gyda £5 yr un gallwn gyrraedd y targed yn fuan iawn. Os gwelwch yn dda ewch a’ch rhoddion i’r swyddfa yng Nghanolfan Thomas Telford. - CYDNABYDDIAETH CENEDLAETHOL
Fis Medi diwethaf cafodd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth ei dderbyn yn Amgueddfa am ei waith yn hyrwyddo dealltwriaeth cyhoeddus a mwynhad o’r Fenai, ei dwy bont hardd a thref Porthaethwy. Cafodd hyn ei gyflawni ar ôl gwaith caled gan Ymddiriedolwyr a Gwirfoddolwyr ac rydym yn falch iawn o’n statws newydd.Rydym yn dal i dderbyn eitemau a dogfennau i’r casgliad; yn ddiweddar cyflwynwyd y siswrn gafodd ei ddefnyddio gan y Tywysog Charles i dorri’r rhuban i agor y ffordd dros Pont Britannia yn 1980 i gasgliad Treftadaeth Menai. Byddant yn cael eu harddangos wrth ochr y siswrn gyflwynwyd i’r gweinidog
Trafnidiaeth ar y pryd pan gafodd y doll dros Bont y Borth ei dileu yn 1940. - CYFLEOEDD I WIRFODDOLWYR
Fyddech chi’n mwynhau bod yn rhan 0 weithgareddau’r grŵp cymunedol prysur hwn? Rydym yn chwilio am bobl i helpu gyda’r Arddangosfa, gofalu am y Casgliad a Rheolaeth, ymchwil lleol, codi arian a thasgau ymarferol.Cysylltwch a Gill yn y swyddfa yng Nghanolfan Thomas Telford os byddwch awydd helpu. - DARLITHOEDD Y GWANWYN
Bydd y ddarlith gyntaf am 2.30, 12 Mawrth gyda Mike Roberts 0 Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn sôn am hanes daearegol y Fenai.Eleni cynhelir y darlithoedd bob yn ail bnawn a min nos – y ddarlith gyda’r nos gyntaf 19 Mawrth. Chwiliwch am raglen digwyddiadau’r gwanwyn. - ORIAU AGORARDDANGOSFA / AMGUEDDFA 2014
Bydd yr Arddangosfa yng Nghanolfan Thomas Telford yn agored dros y Pasg (Ebrill13-24), wythnos Gŵyl Banc y Gwanwyn (Mai 25-30) a thrwy ‘r haf. Bydd ar agor Ddydd Sul i Ddydd Iau 0 10.00 tan 5.00. Mae modd trefnu ymweliad grŵp, sgyrsiau a theithiau cerdded y tu allan i oriau agor.