Dyddiau Ysgol presennol a gorffennol: ‘O’r llechen i’r dabled’

2006-325ph-1024Fel rhan o’n prosiect “Cofion Y Borth”, yr ydym yn trefnu digwyddiadau “Dyddiau Ysgol Presennol a Gorffennol “.

Rhanwch atgofion o’ch dyddiau ysgol ynghyd a rhai eich cyndadau a helpwch blant heddiw i ddysgu sut oedd hi mewn ysgolion yn y gorffennol.

Nos Fercher 19 o Hydref – sesiwn galwch i fewn yng Nghanolfan Thomas Telford (gyferbyn a Waitrose) rhwng 6 ag 8 y nos.

  • Yn agored i bawb, hen ac ifanc
  • Rhieni, dewch a’ch plant
  • Gemau hen ffasiwn i’r ifanc a’r ifanc eu hysbryd, i’w trio allan
  • Eitemau eraill a photograffiau yn dangos sut oedd dyddiau ysgol yn y gorffennol
  • Sgwrs fer am y Ganolfan a oedd unwaith yn Ysgol Genedlaethol yn y Borth.
  • Lluniath ysgafn
  • Dewch a lluniau o’ch dyddiau ysgol i’w rhannu, ac efallai y gallwch gyfranu scaniau digidol i’n casgliad.
  • Byddwn hefyd mewn sefyllfa i recordio pobol yn siarad am eu dyddiau ysgol i ychwanegu at ein casgliad llafar o hanes.

Dydd Mawrth 25 o Hydref rhwng 10 y bore a 2 y prynhawn, diwrnod o ddigwyddiadau teuluol “Cerdded a Siarad”, yn cychwyn o’r Ganolfan.

  • Bydd y teithiau yn mynd trwy’r dref heibio i safleoedd hen ysgolion.
  • Bydd sgyrsiau am hen ysgolion y Borth.
  • Digwyddiadau yn gysylltiedig a gemau iard chwarae a rhigymau, a lluniaeth ysgafn.
  • Efallai hyd yn oed y gwnewch gyfarfod pobol o’r gorffennol

museums_social_facebook_icon

Share this - Rhanwch hyn: