Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy – Newyddion Mis Gorffennaf 2014

WARWS GLANFA’R TYWYSOG
Agorodd yr adeilad sydd newydd ei adfer ddiwedd Ebrill a daeth dros 100 o bobl i ddathlu gorffen Rhan Gyntaf y prosiect hwn. Dywedodd un ymwelydd adnabyddus ‘roedd yn hyfryd gweld cymuned gyfan yn cael ei hysbrydoli gan arweinyddiaeth y peiriannydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Bob Daimond… mae’r Arddangosfa wreiddiol yn awr yn Amgueddfa Achrededig a bydd yn ffynnu yn ei chartref newydd…mae’r gymuned yn deall cyfraniad y gwaith peirianyddol gwych i’w bodolaeth’.
Rydym yn dal i fod angen £3000 o gyfraniad gan y gymuned tuag at Gostau Rhan 1 – 600 o bapurau £5 eto os gwelwch yn dda.

DIGWYDDIADAU YNG NGLANFA’R TYWYSOG
Mae’r Warws wedi cael ei ddefnyddio’n barod ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau. Bydd nifer o weithgareddau yno yn ystod yr haf gan gynnwys Wythnos Forol Môn a’r Ŵyl Bwyd Môr. Chwiliwch yn y Wasg ac yn y Cyfryngau Cymdeithasol am wybodaeth. Dewch i weld cwch Ynys Gorad Goch, ac Arddangosfeydd y Wê Haearn a Hanes y Post yng Ngogledd Cymru. Yn ystod y Ras Rafftiau galwodd nifer o bobl heibio i holi sut i helpu Treftadaeth y Fenai. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.

TRETADAETH Y FENAI A’R RHYFEL MAWR
Dros y misoedd diwethaf mae nifer cynyddol o haneswyr lleol wedi bod yn cyfarfod yng Nghanolfan Thomas Telford i ymchwilio ac i gofnodi gwybodaeth. Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri bydd arddangosfa o ffotograffau ac atgofion o effaith y Rhyfel Mawr ar y dref yn agor yng Nglanfa’r Tywysog 25 Gorffennaf 10.30 – 14.30. Wedyn bydd yn teithio o amgylch Porthaethwy. Bydd cyfres o Deithiau a Sgyrsiau ar ddydd Gwener drwy gydol Awst yn dechrau ar Awst 1af – Capel Mawr a Recriwtio gan Gerwyn James 10.00 – 12.00 yng Nghanolfan Thomas Telford; ewch i’r wefan am fanylion y rhaglen lawn. Cost pob sesiwn – £5.00.

PNAWNIAU CERDDOROL MISOL
Cynhelir y rhain yng Nghanolfan Thomas Telford Awst 2, Medi 6, Hydref 4, Tachwedd 1, a Rhagfyr 6. Drysau’n agor am 14.00, cerddoriaeth yn dechrau am 14.30 ac yn gorffen am 16.40. Galwch, i gyfarfod ffrindiau a mwynhau paned, teisen a’r gerddoriaeth. Dim ond £3.00 y sesiwn.

RHOSTIO MOCHYN YNG NGLANFA’R TYWYSOG
Dewch â’r teulu a ffrindiau i Wledd ar y Pier. Dewch i brofi’r porc lleol blasus a’r trimins i gyd mewn lleoliad hardd iawn – gan gynnwys golygfa o Bont y Borth ac adloniant! Drysau’n agor am 17.30 ac yn cau ar ôl i’r bwyd orffen. Peidiwch â cholli noson dda – bydd tocynnau ar werth o GTT o ddydd Sul Gorffennaf 20 – dim ond £12.00 yr un.

ORIAU AGOR ARDDANGOSFA’R PONTYDD – GORFFENNAF 20 – MEDI 25
Dydd Sul i ddydd Iau 10.00 – 17.00 heblaw am ddydd Llun – hyd 16.00. Dewch i weld y creiriau sydd newydd gyrraedd, dewch â ffrindiau, dywedwch wrth bawb am y casgliad, am hanes y pontydd dros y Fenai, y peirianwyr a’r gweithwyr a’u hadeiladodd a’u heffaith ar drafnidiaeth a hanes yr ardal.

Share this - Rhanwch hyn: