Cynhanes
3000-2000 CC – Oes Neolithig – darganfuwyd bywellau carreg o’r oes yma.
2000-1000 CC – Oes Efydd – wrnau claddu wedi’i ddarganfod. Darganfyddiad o 8 bwyell bres yn dyddio o’r oes yma.
Hanes
Rhufeiniaid – Darganfuwyd 37 o ddarnau arian yn dyddio o 218-268 OC. Cafwyd eu darganfod ar y safle sydd heddiw a elwi’r yn Goed Cyrnol (erstalwm yn llwybr cerigog, tebygol yn arwain at fan croesi).
61 OC – Rhufeiniaid yn croesi’r Menai am y tro gyntaf. Mae’n debygol y croesawyd y Fenai ger lle mae Biwmares heddiw. Cofnododd Tacitus, ysgrifennwr Rhufeinig hanes y croesiad.
4ydd i’r 9fed Ganrif – Yn ystod yr amser yma fe fuasai ymsefydlwyr Gwyddelig a Llychlynnwyr wedi meddiannu pob darn o Ynys Môn, ynghyd a rhai o dywysogion Gymraeg.
1188 – Archebog Caergaint Baldwin yn glanio ar lannau Ynys Môn gyda Gerallt Cymro mewn cais i gynyddu’r cymorth am groesgadau. Mae’n debyg y glaniodd yr Archesgob yng Nghilfach Cadnant.
1194 – Brwydr Porthaethwy – hanes ysgrifenedig gyntaf Porthaethwy. Yn ystod y frwydr lladdodd Llewelyn Ap Iorwerth (wedyn yn cael ei alw’n Llewelyn Fawr) ei ewythr Rhodri, mab Owain Gwynedd.
1400au Cynnar – Adeiladwyd yr eglwys fach ar Ynys Tysilio sef adeilad hynaf Porthaethwy. Mae’n debygol yr oedd yna eglwys o fathau ar yr ynys cyn yr adeg yma.
1589 – Record gyntaf o goredau pysgod ar Ynys Gorad Goch. Adeiladwyd sawl gored pysgod arall yn ystod yr adeg yma.
1590au – Melin llanw yn cael ei osod yn agos at Ynys Tysilio. Nad yw’r felin dal i fodoli ond fedrwch weld y gweddillion yn glir.
1594 – Brenhines Elisabeth yn brydlesi fferi i John Williams.
1630 – Fferi dros y Fenai yn nwylo teulu’r Thomas Williams o 1630 tan 1826.
1681 – Record gyntaf o Ffair Borth.
1688 – Tŷ Fferi Porthaethwy (weithiau galwyd yn Nhŷ Fferi Bangor) yn cael ei sylfaenu. Mae’r enw wedi newid sawl gwaith ond yng nghanol y 19eg ganrif galwyd yn Cambria Inn. Mae’r adeilad dal yn sefyll ac mae’r ganddo’r clod o fod yn adeilad hynaf Porthaethwy.
1805 – Arglwydd Bulkely yn gorchmynno adeiladwaith ffordd yn cysylltu Porthaethwy a Biwmares.
1814 – Deddf Lloeau yn cael ei basio i gyfranogi tir comin.
1822 – Gwasanaeth baced gyntaf rhwng Lerpwl a Porthaethwy yn cael ei sefydlu.
1826 – Agoriad Pont grog y Borth Telford.
1827 – Deddf Lloeau 1814 yn cael ei weithredu. Rhan fwyaf o loeau Porthaethwy yn mynd at Earl of Uxbridge (Adalydd Ynys Môn cyntaf).
1828 – Richard Davies yn agor siop groser cyfanwerth gyntaf ar lan y môr Porthaethwy. Yn hwyrach buasai’r teulu yn cludo coed ar draws y byd ac fe ymfudodd llawer o bobl i Ogledd America ar eu llongau.
1850 – Llongau’r teulu Davies yn dechrau cludo ymfudwyr i America a Ganada.
1853 – Agoriad yr Ysgol Genedlaethol nesaf at Eglwys Santes Fair.
1891 – Cwmni Llongau Stem Lerpwl a Gogledd Cymru yn cael ei ffurfio.
1904 – Menai Promenâd Porthaethwy yn agor yn swyddogol gan David Lloyd George. Pobl yn ymweld ˆ Phorthaethwy i edrych ar y bont. Carreg-Yr-Halen yn cael ei droi i mewn i draeth nofio bob blwyddyn gan ddod a thywod i’r traeth.
1905 – Llong olaf teulu Davies yn cael ei werthu.
1914-1918 – Rhyfel Byd Cyntaf: ffoaduriaid Gwlad Belg yn ffoi i Borthaethwy. Yn ystod yr amser yma adeiladwyd Promenâd y Belg.
1953 – HMS Conwy yn dryllio o dan Bont grog y Borth.
1962 – Cwmni Llongau Stem Lerpwl a Gogledd Cymru yn cau (datodiad gwirfoddol).
2008 – Yn dilyn amser o siopau’n cau yn ystod y 70au mae Porthaethwy heddiw yn dref siopa brysur a chanolfan masnach bwysig ar gyfer ardal fawr. Mae’n dda gweld nifer o siopau ar y stryd fawr yn cael eu hatgyweirio i’w gyflyrau gwreiddiol.