Ymweliadau Grŵp

Robert Stephenson'd Tubular Railway Bridge
Robert Stephenson’d Tubular Railway Bridge

Yn rhedeg trwy’r flwyddyn.

Mae’r Ganolfan yn croesawu grwpiau o bob math gyda bob math o wahanol ddiddordebau. Dyma wybodaeth hanfodol ar gyfer arweinyddion grŵp.

Gwybodaeth Bwcio –

  • I grwpiau sydd eisiau cyfuno ymweliad â’r Ganolfan gyda thaith dywys ar lan y môr neu daith dros y Bont gyda pheiriannydd, mae’n hanfodol bwcio o flaen llaw.
  • Os ydych yn trefnu ymweliad sydd yn cynnwys taith rydym yn awgrymu eich bod yn caniatáu 2-4 awr ar gyfer eich ymweliad.
  • Medrwn drefnu te a choffi a/ neu ginio bwffe.
  • Ar gyfer teithiau tywys awgrymwch fod eich grŵp yn gwisgo esgidiau synhwyrol a chotiau i amddiffyn eu hunain yn erbyn y gwynt wrth gerdded ar draws y bont.
  • Cerbydau – Mae mynediad am ddim ar gael ar gyfer gyrwyr sydd yn gyrru grwpiau o 10 person neu fwy.
  • Mae yna le i adael eich teithwyr y tu allan i’r Ganolfan a lle parcio am dros 4 awr ar Ffordd Caergybi, chwarter milltir i ffwrdd o’r Ganolfan.
  • Ymwelwyr anabl – ar gyfer yr anabl mae gennym fynediad penodol i mewn i’r Ganolfan a gellir trefnu teithiau arbennig ar gyfer gwahanol anghenion . Trafodwch gyda rheolwr y Ganolfan fel y medrwn wneud trefniadau addas, os gwelwch yn dda.

Cysylltwch â’r swyddfa am archebu.

Share this - Rhanwch hyn: