Cyfleoedd i Wirfoddoli

Yn recriwtio: Ymddiriedolwyr Gwirfoddol & Gwirfoddolwyr Amgueddfa

Oes gennych chi angerdd dros hanes lleol ac ychydig oriau i’w sbario bob mis? Mae Treftadaeth Menai yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n Tîm a’n helpu i rannu hanes ein Pontydd eiconig a diogelu dyfodol Canolfan Thomas Telford.

Ymddiriedolwyr Gwirfoddol:  Rydym yn awyddus i glywed gan feddylwyr strategol hoffai ymuno a’n Bwrdd o Ymddiriedolwyr i helpu ni i lunio dyfodol y Ganolfan. 

Gwirfoddolwyr Amgueddfa:  Cwrdd a chyfarch ymwelwyr, tywys teithiau o’r amgueddfa a’r pontydd a chynorthwyo gyda digwyddiadau.  Dim angen ichi fod a gwybodaeth arbenigol, dim ond agwedd cyfeillgar a pharodrwydd i ddysgu.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch a ni ar:  info@menaiheritage.org.uk

Ffon:  01248 715046

Share this - Rhanwch hyn: