Yr Ymddiriedolwyr

Bob DaimondBob Daimond
Fel Peiriannydd Sifil Siartredig, Amgylcheddwr Siartredig a chyn Gyfarwyddwr Priffyrdd Gwynedd, bu gennyf ddiddordeb yn y ddwy bont dros y Fenai ers blynyddoedd. Ar hyn o bryd rwyf yn brysur yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a chynaladwyedd isadeiledd treftadaeth a helpu’r sector addysg i gydnabod cyfraniad peirianneg i gymdeithas fodern.

 

David HallDavid Hall
‘Rwyf yn berson graddedig mewn Peirianneg Sifil ag Adeiladol o Brifysgol Sheffield, ac yn beiriannwr sifil siartredig. ‘Rwyf wedi treulio gydol fy mywyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol; y 25 blwyddyn gyntaf yn dylunio a rheoli priffyrdd yng Nghymru a Lloegr, ac wedyn, am gyfnod byr fel peiriannwr trefol. Am y 12 mlynedd diwethaf, ‘rwyf wedi bod yn gweithio’n rhan amser ar weithgareddau Amddiffynfeydd Arfordirol.
Cefais fy nghyflwyno i Ynys Môn ar ddiwedd y 60au gan fy mriod, dynes o’r ynys, ac mae fy edmygedd a ddiddordeb yn y pontydd wedi tyfu ers hyny. ‘Rwyf wedi hwylio a rasio ar yr Afon Menai am y 15 mlynedd diwethaf, a symudais i fyw ar yr ynys yn 2010.

 

Gareth Jones

 

Jean BakerJean Baker
Ar ôl gyrfa gynnar mewn miwsig a theatr gyda Choleg Cerddorol Brenhinol Manceinion a Chwmni Opera Cymru fe gymhwysais fel nyrs cardio thorasig yn Ysbyty Brompton, Llundain. Bûm yn bennaeth yr Ysgol Nyrsio yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn Ysbyty Gwynedd.
Mae gennyf Dystysgrif Uwch mewn Addysg Oedolion. Ailgychwynnais Gymdeithas Ddinesig Porthaethwy gyda grŵp o ffrindiau ac yna gofynnwyd i mi fod yn rheolwr prosiect er mwyn diogelu adeiladau glannau’r Fenai.
Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol sefydlwyd grŵp gwarchod y Glannau a ddaeth yn 1997 yn gwmni cyfyngedig cofrestredig, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy. Fi yw Ysgrifennydd y Cwmni.

 

Joanna Robertson
Daethum yn Ymddiriedolwr yn 2010. Symudais i Ogledd Gorllewin Cymru yn 1991 gyda teulu ifanc a swydd mewn cadwriaeth adnoddau naturiol. Hyfforddais fel arweinydd twristiaid gyda Treftadaeth Menai ac ‘rwyf wedi cymeryd rhan flaenllaw yn nigwyddiadau’r Ymddiriedolaeth ers hynny. ‘Rwyf yn awyddus i weld gorchestion peirianyddol yn cael eu cydnabod ac ‘rwy’n ymwybodol fod y ddwy bont arbennig sydd gennym tros y Fenai ynghyd a’r hanesion cysylltiedig yn rhan bwysig o hanes yr Ynys.

 


John ColeCefais fy nwyn i fyny yng Nghasnewydd, De Cymru ac astudiais Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Ddinesig Manceinion. Bum yn rheoli llyfrgelloedd yng Nghasnewydd cyn symud i Rochdale, ger Manceinion lle bum yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth archifau lleol. Yr oeddwn hefyd yn gyfrifol am redeg y gwasanaethau diwylliannol a thwristiaeth yn Rochdale pan agorwyd yr amgueddfa ac oriel ddarluniau  newydd a noddwyd gan y Loteri ac a agorwyd ym 2001. ‘Rwyf wedi ysgrifennu amryw o lyfrau gan gynnwys Conflict and Co-operation, Down Poorhouse Lane a Suspicious Deaths in Rochdale (!) a cynhyrchais nifer o ffilmiau a fidios hanesyddol eu naws cyn symud i Ynys Môn gyda’m gwraig, Sue. Ers hynny yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â archifau cymunedol ac ymunais â Threftadaeth y Fenai yn 2015. Mae fy niddordebau yn cynnwys ymchwilio hanesyddol, cerdded, jas a llyfrau comic Americanaidd.    

 

Julie StoneJulie Stone
Symudais o Sir Efrog i fyw ar Ynys Môn yn 2006, ac ‘rwyf wedi hyfforddi fel athro a chynghorydd. ‘Rwyf wedi gweithio mewn ysgolion a hefyd wedi dysgu oedolion; yn y gymuned, sector gwirfoddoli a’r gwasanaeth iechyd. ‘Rwyf wedi ymchwilio i mewn i hanes fy nheulu a theuluoedd eraill, ac yn y broses wedi dysgu llawer am ddeunyddiau archifo ar draws Prydain.
‘Rwyf wedi cyhoeddi sawl erthygl a dau lyfr. ‘Rwyf yn ymddiddori mewn hanes diwydiannol a chymdeithasol. Yn ddiweddar, ‘rwyf wedi cymryd rhan mewn rhoi darlithoedd i grŵpiau lleol.

 

Nia JonesNia Rhys Jones
Rwyf yn gweithio fel Rheolwr Ardal Rhaglen Teithio a Thwristiaeth Coleg Llandrillo. Mae gennyf radd mewn Hanes a Hanes Cymru o Brifysgol Bangor. Bûm yn gweithio i Fwrdd Twristiaeth Cymru yn Llundain ac yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i Ogledd Cymru yn y 1990au cynnar. Rwyf yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Chymdeithas Dwristaidd Ynys Môn Mae gennyf gymhwyster tywysydd gyda Bathodyn Glas ac rwy’n mwynhau gweithio gyda’r llongau mordaith sy’n glanio yng Nghaergybi. Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau mynd i weld fy mrawd yn yr Eidal a chyfarfod ffrindiau. Rwyf yn Ymddiriedolwr ers 2008.

 

Shaun McLoughlinShaun McLoughlin
Rwyf wedi bod yn weithgar gyda YTGP ers 1996. Mae gennyf radd mewn Botaneg a Sŵoleg o Brifysgol Manceinion a bûm yn dysgu yng Ngholeg Sant Joseff, Stoke on Trent am chwe mlynedd cyn cael MSc. mewn Eigioneg ym Mhrifysgol Southhampton. Bum yn dysgu yn Basingstoke a Farnham, yn bennaeth Adran a Dirprwy, cyn cael swydd yn brifathro Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Croesoswallt. Ymddeolais yn 1992 a bûm yn Gyfarwyddwr dros Gymru ar y Cynllun Addysg Peirianyddol tan 2000.
Mae gennyf ddiddordeb mewn adeiladu tai, trin hen ddodrefn a hwylio. Fi yw Swyddog Datblygu’r ‘Royal Anglesey Yacht Club’ ac rwy’n Is Gadeirydd ac ysgrifennydd Pwyllgor Regata Afon Menai.

 

William DayWilliam Day
Dechreuodd fy ngyrfa mewn Peirianneg Sifil yn 1965 pan adewais yr ysgol, gan weithio ar brosiectau tanddaearol yn Llundain, gan gynnwys y trên tan ddaear a Thwnel Blackwall. Rwyf yn Beiriannydd Siartredig ers 1977. Rwyf wedi gweithio ar gynllunio pontydd ym Mhrydain a thramor, gan gynnwys Pont Cleddau. Rhwng 1995-97 bum yn gweithio ar archwiliad ac asesiad o Bont Britannia i Network Rail. Symudais i Fangor yn 1999 gan weithio ar Bont y Borth o 1999-2007. Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio i Hyder Consulting. Rwyf yn Gymrawd o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

 

Warren Kovach
Cefais fy ngeni a’m magu yn UDA ond rwyf yn byw ym Môn er 1992. Yn wreiddiol roeddwn yn ymchwilydd ac yn ddarlithydd mewn bioleg, ecoleg a phaleontoleg ond yn ddiweddarach newidiais i weithio ar ddatblygu meddalwedd gwyddonol ar gyfer cyfrifiaduron. Ar ôl symud i Ynys Môn dechreuais ddysgu am ei hanes a’i thirlun. Datblygais y safwe boblogaidd Anglesey-History.co.uk ac yn ddiweddar cyhoeddais y llyfr Anglesey Through Time – hanes Môn mewn lluniau – trwy gyfosod dau lun, un hen ac un newydd o’r un lle.
Share this - Rhanwch hyn: