Cwestiynau Bont y Borth

Eich Cwestiynau am Bont y Borth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Bont y Borth, anfonwch e-bôst atom. Byddwn yn ceisio ymateb mor fuan ag sy’n bosib, a byddwn yn cyhoeddi’r atebion ar y dudalen yma.

Cwestiynau Diweddaraf

A yw’r bont yn dollbont? (gan Staf Greenen)

Nid yw’r bont yn dollbont y dyddiau yma ac fe all pawb groesi’r bont. Ond nid yw rhai bysiau mawr yn gallu teithio ar ei thraws am eu bod yn rhy drwm, neu yn methu ffitio trwy’r bwâu.

Roedd y bont yn dollbont yn wreiddiol. Cafodd y doll ei diddymu yn 1941 pan ail-agorwyd y bont ar ôl gwaith ail-adeiladu mawr. Ers hynny mae’r bont wedi bod yn ddi-ddal.

Yn 2005, cafodd darn £1 ei ryddhau, a disgrifiodd y bont fel ‘Pont Telford’. Ai hwn yw’r enw cywir? (dienw)

Yr enw cyffredinol yw ‘Pont y Borth’ neu ‘Bont Menai’. Er hynny, mae rhai, yn enwedig y bobl leol yn ei galw’n’ ‘Bont Telford’ er mwy’n gwahaniaethu rhwng pontydd Stephenson a Telford.

Share this - Rhanwch hyn: