Robert Stephenson

Portread o StephensonUn o beirianwyr rheilffyrdd gorau’r byd
1803 i 1859

Ganed Robert Stephenson ar y 16eg o fis Hydref, 1803, yn unig fab i’r peiriannwr rheilffordd enwog, George Stephenson. Wedi iddo dderbyn ei addysg breifat yn Newcastle-Upon-Tyne, ymgymerodd Robert â phrentisiaeth ac aeth i Brifysgol Caeredin. Yr oedd yn beirianydd mwyngloddio yn Colombia am dair blynedd, a dychwelyd i Brydain yn 1827 i weithio ochr yn ochr â’i dad.

Cred rhai yw fod llawer o’r gwaith â gysylltir â George Stephenson yn ffrwyth y bartneriaeth deuluol rhwng y tad a’r mab. Roedd y bartneriaeth yma yn hynod allweddol yn hanes cynnar y rheilffordd. Dyma’r berthynas y tu cefn i’r Rocket arloesol – un o’r cerbydau rheilffordd enwocaf yn y byd. Yn ogystal â’r Rocket, adeilasant amryw i gerbyd yn sgil ffurfio’r rhwydweithiau rheilffordd newydd. Ym 1833, penodwyd Robert Stephenson yn Brif Beiriannydd i’r rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham – sef y lein gyntaf i gyrraedd Llundain. Roedd hon yn dasg anodd ac wedi iddi gael ei chwblhau ym 1838, derbyniodd Stephenson glod a pharch mawr gan ei gyfoedion.

Un o gyfeillion Stephenson oedd Isambard Kingdom Brunel – un o’r peiriannwyr enwocaf erioed. Er i’r ddau gystadlu yn erbyn ei gilydd, roeddent yn helpu’i gilydd yn gymharol aml a chynnig cymorth pan oedd ei angen. Wrth i’w yrfa ddatblygu a chynyddu, troediodd Stephenson fwy-fwy ym myd pontydd gan adeiladu sawl enghraifft enwog ar hyd a lled y byd. Efallai mai’r enwocaf o’r rhain yw Pont Britannia – enghraifft hollol arloesol o bont diwbaidd. Stephenson a oedd yn gyfrifol dros adeiladu’r enwog High Level Bridge yn Newcastle-Upon-Tyne ynghyd â’r Royal Border Bridge ger Berwick-upon-Tweed.

Fel Thomas Telford, daeth Stephenson yn Llywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn 1855 am ddwy flynedd. Yr oedd hefyd yn Llywydd cynnar Sefydliad y Peirianwyr Mechanyddol. Bu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Whitby o 1847 hyd ei farw ym 1859,ac wedi ei gladdu yn Abaty Westminster. Yn deyrnged i’r tad a’r mab, mae’rRailway Museum yn North Shields wedi ei enwi ar ôl teulu’r Stephenson.

Share this - Rhanwch hyn: