Treftadaeth Menai yn Ffair Lyfrau Porthaethwy – 14 Hydref 2017

Bydd gan Treftadaeth Menai stand yn Ffair Lyfrau Porthaethwy, a gynhelir rhwng 10 y bore a  4 y p’nawn, ar y 14 o Hydref yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Hon yw un o’r ffeiriau mwyaf yng Nghymru efo dros 50 o fyrddau. Byddwn yn gwerthu nifer o’n cyhoeddiadau ni’n hunain yn ogystal â rhai  eraill sy’n sȏn am bontydd y Fenai a’r ardal yn gyffredinol. Bydd hefyd nifer o engrefiadau o’r pontydd ar gael.

Ysgol David Hughes yw’r ysgol uwchradd ar y chwith i’r ffordd sy’n arwain o’r Borth i fyny am Amlwch a Benllech, [B5420 (A5025)], cod post LL59 5SS. Bydd ffi mynediad o £1 ac mae digon o le i barcio ceir ar dir yr ysgol. Hefyd bydd diodydd poeth a lluniaeth ysgafn ar gael.

Share this - Rhanwch hyn: