Wedi’i archebu’n llawn
Beth am fynd am dro gyda Treftadaeth Menai i weld Llewod Pont Britannia!
Ar un adeg ‘roedd y llewod i’w gweld bob ochor i’r ddwy fynedfa at Bont Britannia ond erbyn hyn maent o’r golwg oddi tan dec y ffordd.
Bydd ein harweinwyr profiadol yn arwain teithiau cerdded oddi tan y Bont lle gallwch werthfawrogi’r orchest wych yma yn ogystal a gweld y llewod. Cewch ddysgu am hanes y bont a sut yr adeiladwyd hi yn ogystal a chael gwybodaeth gyffredinol am y Fenai.
Bwciwch eich lle am ddim; manylion isod: info@menaiheritage.org.uk or 01248 715046.
Digwyddiad Drws Agored CADW
Share this - Rhanwch hyn: