Red Boat Ice Cream yn agor ym Mhorthaethwy mewn partneriaeth gyda Treftadaeth Menai

 Perchnogion Red Boat, Tony a Lyn Green (yn y drws) gyda aelodau o Dreftadaeth Menai a Chymdeithas Ddinesig Porthaethwy.
Perchnogion Red Boat, Tony a Lyn Green (yn y drws) gyda aelodau o Dreftadaeth Menai a Chymdeithas Ddinesig Porthaethwy.

Mae Red Boat Ice Cream Parlour o Biwmaris wedi ehangu eu busnes i adeilad bychan hanesyddol  ym Mhorthaethwy. Mae’r bartneriaeth rhwng Red Boat a Treftadaeth Menai wedi adfywio defnydd hen adeilad Giatws y Lanfa sydd wrth y fynedfa a’r promenâd.

Adeliadwyd yr hen giosc cerrig yn y 1900au fel swyddfa docynnau i’r llongau stêm oedd yn rhedeg rhwng Porthaethwy a Lerpwl pan oedd twristiaeth yn ei anterth. Yn 1997 cofrestrwyd ef gan CADW fel adeilad Gradd ll ac fe’i adnewyddwyd gan Gymdeithas Ddinesig Porthaethwy yn 2000. Cymerodd Treftadaeth Menai, sef yr elusen sy’n rhedeg yr Arddangosfa Bontydd yng Nghanolfan Thomas Telford, y lle ar brydles gan y perchnogion presennol, Cyngor Sir Mȏn. ‘Mae’n fwriad i symud yr Arddangosfa i Lanfa’r Tywysog.

Pier Gatehouse in 1914

Dywedodd Anthony Green, perchennog y Red Boat, “’Mae agor y Red Boat newydd yma mewn adeilad mor unigryw sydd wedi ei leoli mewn safle mor arbennig, yn fenter gyffrous iawn i ni. Mae’r adeilad hwn yn engraifft berffaith o’r cyfoeth o adeiladau hanesyddol sydd gennym yn y Borth. ‘Mae hefyd yn dangos y gwaith pwysig mae Treftadaeth Menai yn ei wneud wrth roi bywyd newydd i’r perlau hyn. Buasai Mr. Telford yn falch.”

Dywedodd Joanna Robertson, Cadeirydd Canolfan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Menai, “’Mae Treftadaeth Menai yn falch o fod yn rhan o’r fenter hon trwy ddod a bywyd newydd i adeilad hanesyddol. ‘Rydym yn edrych ymlaen i weld mwy o bobol yn chwilota i hanes yr hen lanfa – a chael hufen iâ Red Boat yr un pryd.

Agorodd Red Boat Ice Cream Parlour ar y 13 o Ebrill.

Share this - Rhanwch hyn: